Aberystwyth yn herio’r Drenewydd oddi cartref

Enillodd Aberystwyth yn y gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm 0-4 ar Barc Latham ym mis Mai

Huw Bebb
gan Huw Bebb
Aberystwyth v Fflint

Bydd Aberystwyth yn herio’r Drenewydd oddi cartref heno (17 Medi), gyda’r gic gyntaf am 7:45yh.

Mae tîm Antonio Corbisiero wedi colli ei pedair gêm ddiwethaf yn y gynghrair, gan golli 1-0 yn erbyn Met Caerdydd yr wythnos ddiwethaf.

Dim ond un o’u pum gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth mae’r Drenewydd wedi ennill, gan golli dwy a chael dwy gêm gyfartal.

Enillodd Aberystwyth yn y gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm 0-4 ar Barc Latham ym mis Mai.