Aberystwyth yn cofio heddwch

Chwifio baner ar Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch 2021

Ar ddydd Mercher, 21ain o Fedi, cynhaliwyd seremoni Diwrnod Rhyngwladol Heddwch 2021 yn Aberystwyth.

Cadeiriwyd y digwyddiad gan y Maer, y Cynghorydd Alun Williams, gyda Chôr Gobaith yn canu.

Cyngor Tref Aberystwyth oedd yn gyfrifol am y digwyddiad, a nodwyd gan gyflwyno baner heddwch ar y prom.

 

Mae’r diwrnod hwn yn ceisio atgoffa pobl o bob hil a phob gwlad i feddwl am heddwch cyffredinol.

Yn 1981, enwodd y Cenhedloedd Unedig y trydydd dydd Mawrth o Fedi fel Diwrnod Heddwch Rhyngwladol.

Ar y diwrnod hwn hefyd, cynhaliwyd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ei sesiynau agoriadol.

Thema Diwrnod Heddwch Rhyngwladol 2021 yw “Adfer yn well ar gyfer byd teg a chynaliadwy.” Rhywbeth yn wir sydd yn werth i ni gyd ystyried.

Diolch i Gyngor Tref Aberystwyth am drefnu.