Aber o fewn trwch blewyn i ddysgu gwers i’r myfyrwyr

Aberystwyth 1 – 1 Met Caerdydd 23/04/2021

gan Gruffudd Huw
Aber v Met Caerdydd
Aber v Met Caerdydd

Met Caerdydd yn taro’r Postyn

Roedd hi’n addo i fod yn gêm llawn goliau gyda Met Caerdydd newydd ennill 6 – 1 yn erbyn Hwlffordd ac Aber newydd ennill 3 – 0 yn erbyn y Derwyddon Cefn (sgoriodd Jamie Reed ei ganfed gôl yn yr Uwch Gynghrair) nos Fawrth diwethaf. Fel yr arfer, roedd sawl cefnogwr wedi dod â’i ysgolion i edrych dros y wal i wylio’r gêm ac roedd ambell faner (gan gynnwys un YesCymru) yn creu awyrgylch da i annog y tîm cartref.

Daeth Aber o fewn trwch blewyn i gipio tri phwynt arall ond cafwyd drama hwyr – hwyr iawn – unwaith eto! Dim ond munud o amser anafiadau oedd ar ôl ar ddiwedd y gêm pan sgoriodd Met Caerdydd i sicrhau gêm gyfartal. Er gwaethaf y siom o ollwng pwyntiau, roedd yn ganlyniad eithaf da yn enwedig o ystyried fod Met Caerdydd wedi sgorio chwe gôl mewn 43 munud ganol wythnos.

Er y newidiadau i amddiffyn Aber cafodd Met Caerdydd amser llawer anoddach ar Goedlan y Parc. Cafodd Rhys Davies gêm addawol yn lle Lee Jenkins oedd wedi’i wahardd.

Ni welwyd llawer o gyfleoedd gan y naill dîm yn gynnar yn yr hanner cyntaf ac roedd rhaid aros 20 munud i weld cyfle gwerth chweil cynta’r gêm. Croesodd Jonathan Evans tuag at Jamie Reed ond peniodd Reed y bêl heibio’r postyn.

Saith munud yn ddiweddarach bu bron i’r ymwelwyr fynd ar y blaen. Croeswyd y bêl o gornel tuag at y postyn pellaf i McCarthy. Tarodd y bêl yn berffaith ar y foli ar draws y gôl ond fe daranodd oddi ar y postyn. Gwelwyd cyfle arall i Met Caerdydd ar ôl 30 munud ond fe arbedodd Connor Roberts yr ergyd yn wych.

Hanner agos o bêl-droed heb lawer o gyfleoedd clir gyda’r Met yn gorffen yn gryfach cyn i’r dyfarnwr chwythu’i chwiban.

Yr ail hanner

Stori wahanol oedd hi yn yr ail hanner gyda sawl cyfle da i’r ddau dîm. Gwelwyd dau gyfle gwych i Aber o fewn munud i’w gilydd. Ar ôl 49 munud tarodd Louis Bradford y trawsbren a’r postyn gyda’i beniad pwerus a pheniad arall gan Marc Williams yn cael ei glirio oddi ar y llinell!

Ar ôl 57 munud o chwarae, cliriodd Met Caerdydd oddi ar y llinell unwaith eto ar ôl i Rhys Davies benio’r bêl o groesiad o’r asgell chwith. Wedi cyffro cynnar yr ail hanner, roedd rhaid aros dros 20 munud i weld cyfle da arall.

Daeth y gôl gyntaf ar ôl 79 munud. Tarodd Mathew Jones y bêl yn hir tuag at yr eilydd Owain Jones. Methodd Woolridge yn amddiffyn Met Caerdydd i glirio’r bêl ac yn hytrach yn penio’r bêl tuag at gôl ei hunan. Manteisiodd Jones ar y cyfle gan benio’r bêl rydd dros ben y golwr i roi Aber ar y blaen.

Gyda deng munud yn weddill dechreuodd Aber i amddiffyn yn ddyfnach. Roedd yr amddiffyn wedi bod yn weddol gadarn trwy’r noson gyda Roberts yn chwarae’n awdurdodol –roedd y tri phwynt o fewn gafael.

Gyda’r dyfarnwr yn paratoi i chwythu am ddiwedd y gêm – torcalon i Aber. Tarodd Met Caerdydd gic rydd tuag at y postyn pellaf ac fe beniwyd y bêl yn ôl i ganol y cwrt tuag at Hulbert. Gyda’i gefn at y gôl, rheolodd y bêl ac fe droellodd i daro hanner foli i gefn y rhwyd i ddod â Met Caerdydd yn gyfartal. Eiliadau ar ôl i’r dyfarnwr ail-ddechrau’r gêm, chwythodd y chwiban i ddod â’r cyfan i ben.

Does dim cyfle i Aber ymlacio. Byddant yn chwarae yn erbyn Derwyddon Cefn nos Fawrth yng Nghoedlan y Parc ac yn ceisio ennill yn erbyn y gogleddwyr unwaith eto.