Yn ystod mis Mai mae disgyblion a staff Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar wedi bod yn cydweithio i gyflawni her arbennig Marathon Mai. Sialens a osodwyd gan elusen Tŷ Hafan yw Marathon Mai a dyma’r marathon rithiol gyntaf o’i fath.
Yr her a osodwyd i’r disgyblion yw gweld sawl marathon gall bob dosbarth ei gyflawni trwy redeg, cerdded, seiclo neu i ddweud y gwir symud o un fan i’r llall. Mae’r disgyblion wedi bod yn cofnodi eu camau neu eu milltiroedd dyddiol ac yna’n danfon y wybodaeth yn wythnosol i’w hathrawon. Mae’r wybodaeth yma’n cael ei gyfrifo wedyn gan Nia Evans, un o Lysgenhadon Efydd yr ysgol, ac mae pob dosbarth yn falch o weld pa ddosbarth sydd wedi cyflawni’r nifer fwyaf o gamau yn wythnosol! Mae ein Llysgenad Efydd arall, Jamie Ling, wedi bod yn creu ymarferion dyddiol er mwyn annog y disgyblion i gyflawni cymaint o gamau â phosib, a hyn i gyd o’i ben a’i bastwn ei hun.
Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu trefnu rhywbeth i’r disgyblion i gydweithio arno yn ystod y cyfnod hwn o fod ar wahân. Mae’n bwysig i’r staff bod y disgyblion yn dal i deimlo’n rhan o gymuned glos yr ysgol. Mae disgyblion yr ysgol yn mwynhau achub ar bob cyfle posib i gefnogi elusennau lleol a chenedlaethol. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o ymdrechion Apêl Elain gyda Marathon Mai, ac Elain erbyn hyn wedi ymgartrefu ym mhentref Llanilar.
Gyda chwta wythnos i fynd, os oes gennych geiniog i’w sbario i gefnogi disgyblion yr ysgol ac Apêl Elain, gellir gwneud cyfraniadau yma.
Diolch o waelod calon.