Mae hanes hir o stormydd yn creu difrod ar hyd arfordir Cymru. Storm 25 a 26 Hydref 1859, neu ‘Storm y Royal Charter‘ yw’r enwocaf, mae’n debyg. Amcangyfrifir bod y storm honno wedi lladd o leiaf 800 o bobl, suddo 133 o longau a difrodi eiddo ar raddfa eang. O’r 800 a gollwyd, roedd 450 ohonynt ar fwrdd y Royal Charter, llong a oedd ar siwrne o Awstralia i Lerpwl, ond a ddrylliwyd ar greigiau ger Moelfre, Sir Fôn.
Hawdd y gall trigolion presennol Aberystwyth werthfawrogi grym y tonnau gwyllt, o gofio’r difrod mawr a fu i’r Prom yn ystod gaeaf 2013/14, a’r stormydd eraill, llai niweidiol, a ddaeth yn amlach ac yn amlach ers hynny, wrth i newid hinsawdd gael effaith amlwg ar ein hamgylchfyd.
Fe fydd ambell berson hŷn yn siŵr o fod â chof plentyn am storm enfawr Ionawr 1938, pan ddifrodwyd y Prom yn helaeth iawn. Dyma ddolen i ffilm ‘newsreel’ Pathe o’r dinistr. Os ewch chi i ystafell ddarllen y Llyfrgell Genedlaethol, mae yno nifer dda o luniau gan ffotograffydd enwog o’r dre, Arthur Lewis, sy’n cofnodi’r difrod hwnnw, ynghyd â lluniau eraill o ddefod boblogaidd sydd wedi bodoli ers adeiladu’r rhodfa, sef cerdded y Prom i wylio tonnau mawrion yn tasgu dros y waliau!
Fe ddaeth Ciara a Dennis atom yr wythnos hon, gan achosi llifogydd dinistriol iawn mewn sawl man yng Nghymru, difrod a fydd yn cymryd amser maith, arian mawr, a chymorth gan bawb, i’w oresgyn.
Bach iawn mewn cymhariaeth â’r llifogydd yw’r llanast a grëwyd gan y ddwy storm i’n harfordir y tro hwn, ond mae trigolion y Bae yn gwybod y gallai pethau fod yn bur wahanol, ac fe fydd nifer yn dal eu gwynt gan obeithio bod tymor y stormydd cyson drosodd am y tro.
Iestyn Hughes
(Cyhoeddwyd cyfrol am hanes tywydd garw yng Nghymru, Tywydd Mawr mewn lluniau, gan y Lolfa, 2016)