Ymdrech hwyr, ond dim digon!

Aberystwyth 1 – 2 Caernarfon 15/12/2020

gan Gruffudd Huw

Gydag Aber yn llithro lawr tabl Premier Cymru JD yn dilyn colli pedair gêm yn olynol, mawr oedd gobeithion Aber wrth chwarae gartref yn erbyn tîm yng nghanol y tabl. Er hynny, roedd Caernarfon wedi ennill eu dwy gêm flaenorol.
Roedd yr ymadrodd ‘gêm o ddwy hanner’ yn sicr yn wir am hon. Caernarfon yn rheoli rhan fwyaf o’r hanner cyntaf ac Aber yn yr ail. Ond yn y diwedd sawl gôl a sgoriwyd sy’n cyfrif a mawr oedd siom Aber!

Dechreuodd yr hanner cyntaf yn addawol i’r tîm cartref. Roedd Aber yn pwyso’n uchel ac enillwyd tair cornel o fewn pum munud. Roedd hi’n edrych fel petai’r tîm yn cael noson dda!

Ond brwydrodd Caernarfon ‘nôl i’r gêm. Daeth y cyfle cyntaf i’r ymwelwyr ar ôl saith munud gyda’r bêl yn hedfan dros gôl Roberts. Daeth cyfle arall i’r Cofis wyth munud yn ddiweddarach gyda Darren Thomas yn taro’r bêl heibio’r postyn.

Ar ôl 21 munud o chwarae, fe gollodd Jamie Veale y bêl mewn safle peryglus yng nghanol y cae. Ceisiodd Louis Bradford adennill y bêl ond adlamodd i’r Cofis. Derbyniodd Jack Kenny’r bêl ac fe redodd i mewn i’r bwlch a adawyd gan absenoldeb Bradford. Saethodd ergyd bwerus heibio Roberts i gornel chwith y rhwyd.

Parhau wnaeth y cyfleon i’r ymwelwyr ddyblu eu mantais, ond arbedodd Roberts yn wych o gic rydd ac fe darodd Darren Thomas y bêl i mewn i ochr allanol y rhwyd. Roedd Aber yn lwcus iawn fod y sgôr yn dal yn agos.

Newidiodd hyn munud cyn diwedd yr hanner. Enillodd y Cofis gic rydd mewn safle peryglus ar ochr chwith y cae. Crymanwyd y bêl yn isel ac yn ddigon di nod i’r cwrt. Er mawr syndod i bawb (yn cynnwys Darren Thomas ei hun!), aeth y bêl i mewn i gornel gwaelod de’r rhwyd. Gôl siomedig iawn i ildio cyn yr hanner.
Roedd rhaid i Aber berfformio’n well yn nhraean olaf y cae os am ennill. Daeth Geoff Kellaway a Jonathan Evans ar y cae gan gymryd lle Veale a Etchegoyen ar ddechrau’r ail hanner.

Ond suddodd calonnau’r Aber ar ôl i Hewitt lawio’r bêl yn y cwrt cosbi, dim ond tair munud ar ôl yr ail-ddechrau. Roedd hi’n foment enfawr yn y gêm. Os fyddai Caernarfon yn sgorio, fyddai’r gêm ar ben. Camodd Kenny i gymryd y gic i’r Cofis, ond arbedodd Roberts gan ymestyn i gornel gwaelod de’r gôl a rhoi gobaith i Aber.

Roedd Aber yn gweithio’n galed i geisio sgorio. Rheolodd y tîm rhan fwyaf o’r meddiant yn yr ail hanner ond heb gynhyrchu cyfleon clir. Bu rhaid aros tan 89 munud i’r gôl gyrraedd. Enillodd Aber gornel ar yr ochr chwith. Croeswyd y bêl i’r capten Marc Williams ac fe beniodd i mewn i’r rhwyd. Roedd pedair munud ychwanegol i’w chwarae.

Bu Tibbetts yn syfrdanol yn y gôl i’r Cofis yn y munudau olaf. Daeth Mathew Jones mor agos i sgorio ar ôl crymanu’r bêl dros y wal o gic rydd. Roedd y bêl en route i’r cornel uchaf, ond llamodd Tibbetts ar draws y gôl a gwthio’r ergyd allan am gornel. Dal i bwyso wnaeth Aber ac o groesiad arall gwiriwyd y bêl heibio troed y postyn cyn y chwiban olaf.

Canlyniad siomedig i Aber, gyda’r tîm cartref yn dod mor agos ar y diwedd i ennill o leiaf pwynt. Mae’n rhaid dechrau ennill ac mae dwy gêm nesaf Aber yn erbyn y timau yn is na nhw yn y tabl, sef Y Fflint dydd Sadwrn a’r Drenewydd nos Fawrth nesaf!