O galedi’r tloty i foethusrwydd tŷ bonedd, mae’r gyfres newydd sbon yma i S4C yn agor y drws ar straeon rhyfeddol rhai o adeiladau Cymru.
Bydd Waliau’n Siarad yn dathlu hanes a phensaernïaeth ein gwlad drwy straeon y bobl fu’n byw neu’n gweithio mewn chwe adeilad arbennig.
Bob wythnos, bydd y cyflwynwyr Aled Hughes a Sara Huws yn cael rhwydd hynt i grwydro coridorau a chorneli un adeilad penodol.
Ffermdy hynafol Mynachlog Fawr, Ystrad-fflur, sydd â chysylltiadau ag Oes y Tywysogion, yr abatai a’r Greal Sanctaidd gaiff y sylw yn y rhaglen gyntaf am 8yh nos Sul, 12 Ionawr 2020.
Bydd Aled a Sara yn holi pam, sut a phryd y cafodd Mynachlog Fawr ei godi drws nesa i abaty Ystrad-fflur, ger Tregaron. Maen nhw’n sgwrsio gyda Charles Arch a’i chwaer, Beti Williams, am eu magwraeth ar y ffarm ganol y ganrif ddiwethaf, a’r ddau yn dwyn i gof hen ffordd Gymreig o fyw ac amaethu.
Dyna’r darn swyddogol, ond y tu ôl i’r paragraff yna y mae yna flwyddyn a mwy o ymchwil, wythnosau o baratoi a ffilmio a misoedd o olygu! Ac mae pob un cyfnod wedi bod yn heriol, yn addysgiadol ac yn hynod o ddifyr.
Daw Aled Hughes, sy’n wyneb ac yn llais cyfarwydd, o Lanbedrog yn wreiddiol, a bydd Sara Huws, er yn wyneb newydd i S4C, yn gyfarwydd i bobl ardal BroAber360 gan ei bod wedi’i geni a’i magu yn Bow Street.
Mae Cwmni Unigryw yn gwmni bach gyda chriw dethol yn cynhyrchu yma yn Nhal-y-bont ac yna yn tynnu pobol camera, sain a golygu i mewn fel bo’r angen. Mae yna amrywiaeth mawr o bobol llawrydd wedi gweithio ar y gyfres hon: 2 gyflwynydd, 2 gynhyrchydd, 3 pherson sain, 8 person camera, ond dim ond un golygydd ac un rhedwraig! Ffilmio mewn chwe adeilad yn unig ond yr oedd yn golygu mynd i nifer fawr o leoliadau megis archifau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd lleol a holi dros 60 o bobl, caredig a hael eu hamser a’u gwybodaeth i gael ffeithiau pensaernïol, talp o hanes lleol a chenedlaethol, storïau personol, a llawer iawn mwy.
Cafwyd ambell dro trwstan – dau gyfwelai ddim yn troi lan – heb esboniad; 5 cyfwelai yn troi lan yn hytrach na’r ddwy yr oedden i’n eu disgwyl; cogydd blin iawn mewn un lleoliad yn gyrru ein person camera allan o’i chegin (doedd e ddim i fod yno!); methu cael fewn i’r lleoliad er trefnu i fod yno; a system awyru swnllyd iawn na lwyddwyd i’w ddiffodd am fore cyfan. Stress – bois bach!
Lot o chwerthin, lot o drafod (dadlau?), a digon o baneidiau o de a choffi i’n cael ni o eiriau moel y sgript i raglenni cyfan parod i’r gynulleidfa. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau!
Waliau’n Siarad gan Gwmni Unigryw a’r chwe adeilad sy’n datgelu eu cyfrinachau yn ystod y gyfres:
- Mynachlog Fawr, Ystrad-fflur – 8.00, nos Sul, 12 Ionawr 2020
- Coleg Harlech – 8.00, nos Sul, 19 Ionawr 2020
- Y Dolydd, Llanfyllin – 8.00, nos Sul, 26 Ionawr 2020
- Castell y Strade, Llanelli – 8.00, nos Sul, 2 Chwefror 2020
- Adeilad Pryce-Jones, y Drenewydd – 8.00, nos Sul, 9 Chwefror 2020
- Redhouse Cymru, Hen Neuadd y Dre, Merthyr Tudful – 8.00, nos Sul 16 Chwefror 2020