Roedd seremoni urddo aelodau newydd i’r orsedd yn Eisteddfod Aberystwyth 1992, ar fore Gwener 7 Awst, o ddiddordeb mawr i’n teulu ni , gan fod ein merch 11 mlwydd oed, Luned, yn chwarae yn y grŵp recorders a oedd yn cymryd rhan yn y digwyddiad.
Teithiom i Aber yn gynnar yn y bore er mwyn cael seddi cyfleus i weld Luned a ffilmio’r cyfan ar fy nghamera fideo lled-newydd. Roedd e’n fore braf a chawsom safle hyfryd yn agos i’r maen llog yng nghastell Aberystwyth – safle trawiadol i gynnal y seremoni.
Yna, er mawr siom, cyhoeddwyd bod y seremoni wedi’i symud i Ysgol Penglais. Roedd y swyddogion yn disgwyl glaw, er nad oedd prin gwmwl uwchlaw bae Ceredigion.
Cynhaliwyd y seremoni felly yn y gampfa yn ysgol Penglais – y lleoliad mwyaf diurddas a welwyd erioed.
Yr hyn sy’n tynnu sylw yn y fideo yw’r cylch pêl-rwyd sy’n hofran uwchben yr orsedd fel coron!
Mae ‘na ambell i wyneb cyfarwydd yn y fideo ac mae rhai o aelodau’r grŵp recorders a’r dawnswyr blodau bellach yn oedolion gyda phlant eu hunain.
Wedi’r seremoni, croesawyd ni y tu allan i’r ‘gym’ gan haul crasboeth. Doedd dim sôn am law. Gwelais hen gyfaill ysgol a oedd bellach yn arolygydd gyda’r heddlu ac fe ddywedodd yntau wrthyf fod uwch-swyddogion yr orsedd yn poeni y bydde ‘na gawod o law – Dillwyn Miles oedd yn cael y bai, mae’n debyg.
Ymddiheuriadau am y gwaith camera amaturaidd – byddai wedi bod yn well yn y castell!
Gwyn Jenkins