Uchafbwyntiau Sioe Tal-y-bont ar y we

Canlyniadau’r Sioe

Betsan Siencyn
gan Betsan Siencyn

Er i’r haul dywynnu dros Dal-y-bont ddydd Sadwrn, doedd dim un babell nac anifail yn agos at faes y sioe am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Er hyn, roedd cyffro mewn sawl cartref yn y pentref wrth iddynt droi at eu cyfrifiaduron a’u ffonau symudol, gan fod y sioe wedi dod at y bobl! Bu dros 400 o bobl yn cystadlu’n frwd dros yr wythnosau diwethaf yn y sioe ar y we, ac erbyn y dyddiad cau derbyniwyd dros 750 o gynigion! Camp arbennig i griw bach o wirfoddolwyr yr ardal, a wynebodd sawl her i sicrhau bod y sioe’n llwyddo. Braf oedd gweld cynifer o blant wedi cystadlu, gyda bron 60 o gynigion yn adrannau’r plant, CFfI a thywysydd ifanc.

 

Adran gryfaf y sioe oedd y crefftau a ffotograffiaeth – mentrodd 83 o gystadleuwyr ddangos eu sgiliau yma, a derbyniwyd bron i 250 o gynigion o fewn y 13 cystadleuaeth. Bu’n neis cael gweld sut oedd pawb wedi cadw’n brysur yn ystod y cyfnod clo. Yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth 106 ‘Bywyd yn y cyfnod clo’, dangosodd nifer eu bod wedi bod yn coginio, tra bod eraill wedi bod yn cerdded a darllen, ond y thema amlycaf oedd teulu. Cystadleuaeth ffotograffiaeth boblogaidd arall oedd 70 ‘Y ci mwyaf ciwt’ – druan o’r beirniaid, Rheinallt a Catherine Richards, dwi’n siŵr mai hon oedd un o gystadlaethau anoddaf y sioe i’w beirniadu. Bu llawer yn rhyfeddu ac yn mwynhau wrth edrych ar gynnyrch cystadleuaeth crefftau 94 ‘Rhywbeth newydd o hen beth’ – bu nifer yn ‘uwchgylchu’ hen ddodrefn, tra bod eraill wedi defnyddio hen ddillad i greu tedis, a chortyn bêls i greu cebystr! Mae’n amlwg bod trigolion Tal-y-bont a thu hwnt yn rhai hynod o greadigol. 

 

Tasg anodd oedd gan Arvid Parry-Jones hefyd, gan mai ef oedd yn beirniadu adran y ffotograffiaeth arbennig, uchafbwynt y sioe i nifer dwi’n siŵr gan fod dwy wobr o £100 i’w hennill. Ei dasg oedd beirniadu 125 o luniau mewn dwy gystadleuaeth, sef llun o Wartheg Duon Cymreig neu unrhyw frîd arall yn eu cynefin. Mae’n rhaid bod y 63 a gystadlodd ar bigau’r drain erbyn 4:30yp pan gyhoeddodd cadeirydd y pwyllgor, Enoc Jenkins, enillwyr y cystadlaethau. Gŵr a gwraig o Fachynlleth ddaeth i’r brig, llongyfarchiadau i chi, Lisa a Roy Rowlands, mae’r lluniau’n werth eu gweld. 

Cliciwch yma i’w gweld, yn ogystal â’r holl ganlyniadau.