
Ar ôl cyhoeddi gemau ar gyfer Cynghrair Cymru Premier JD, cafodd CPD Aberystwyth gyfle i chwarae gêm am y tro cyntaf mewn 6 mis ac fe arwyddwyd chwaraewr newydd.
Ar ddydd Sadwrn yr 28ain o Awst, chwaraeodd CPD Aberystwyth gêm bêl-droed yng Nghoedlan y Parc am y tro cyntaf ers mis Mawrth. Y gwrthwynebwyr yn y gêm gyfeillgar oedd Hwlffordd. Sgoriodd Hwlffordd ddwywaith mewn dwy funud yn yr hanner cyntaf i roi’r “Bluebirds” mewn safle cyfforddus ar yr hanner. Aber fu’r tîm gorau yn yr ail hanner ac fe beniodd Leigh Jenkins y bêl i mewn i’r rhwyd i haneru’r diffyg. Er hyn, arhosodd amddiffyn Hwlffordd yn gadarn ac enillodd yr ymwelwyr 2-1.
Ddiwrnod yn gynharach, cyhoeddwyd gemau Aber am y tymor nesaf. Yn anffodus, ni fydd cyfle i wylio Aber yng Nghoedlan y Parc yn y dyfodol agos gan y bydd y gemau’n cael eu chwarae tu ôl i ddrysau caeedig. Dyma’r gemau:
12/09 – Caerdydd Met (C) – 14:30
15/09 – Pen-y-bont (OC) – 19:45
18/09 – Y Fflint (C) – 19:45
25/09 – Y Drenewydd (OC) – 19:45
30/09 – Cei Connah (OC) – 19:45
03/10 – Y Barri (C) – 14:30
06/10 – Derwyddon Cefn (OC) – 19:45
09/10 – Y Bala (OC) – 19:45
16/10 – Seintiau Newydd (C) – 19:45
23/10 – Caernarfon (OC) – 19:45
30/10 – Pen-y-bont (C) – 19:45
06/11 – Y Drenewydd (C) – 19:45
13/11 – Met Caerdydd (OC) – 19:45
20/11 – Y Bala (C) – 19:45
28/11 – Seintiau Newydd (OC) – 14:30
04/12 – Cei Connah (C) – 19:45
19/12 – Y Fflint (OC) – 17:00
26/12 – Hwlffordd (C) – 14:30
29/12 – Hwlffordd (OC) – 19:45
01/01 – Caernarfon (C) – 14:30
23/01 – Y Barri (OC) – 14:30
29/01 – Derwyddon Cefn (C) – 19:45
Yng nghanol y prysurdeb, mae Aberystwyth wedi arwyddo Steven Hewitt o Hume FC (tîm o Melbourne yn Awstralia). Mae Hewitt yn gyn-chwaraewr i dimau fel Burnley, Accrington Stanley a Bangor.