Gwrach Cors Fochno

Cerdd iasol gan Anwen Pierce!

gan Iestyn Hughes
Traeth y BorthIestyn Hughes

Cerdd a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer Yr Awen Drwy’r Storïau yw ‘Gwrach Cors Fochno’ gan Anwen Pierce – enw a fydd yn gyfarwydd iawn yng nghylchoedd llenyddol ardal BroAber a Cheredigion drwyddi draw.

Mewn dwy soned mae Anwen yn sôn am fynd am dro i Gors Fochno a thraeth Ynys-las lle’r oedd gwrach yn arfer byw ac yn melltithio’r ardal – hen hanes sy’n gysylltiedig ag ardal y Borth. Cyhoeddwyd y gerdd yn Yr Awen Drwy’r Storïau gan Gyhoeddiadau Barddas ac mae’r gyfrol gain yn gasgliad o gerddi hen a newydd gan feirdd amrywiol am chwedlau Cymru. Golygwyd y llyfr gan Mari George ac mae’n cynnwys darluniadau Celtaidd hyfryd gan Martin Crampin.

Trydarwyd fideo o’r gerdd yma