Tips Tylinwr Tal-y-bont

Tips tylinio gan Alex, Tylinwr Tal-y-bont

gan Alexis Flores Williams
Proffeil AlexisAlexis Flores Williams

Dw i’n mwynhau cael fy nhylino a thylino pobl eraill. Ond, yn anffodus, dyw hyn ddim yn bosib yn ystod y cyfnod yma. Bydd llawer ohonon ni’n treulio amser yn y tŷ ac mae’n bwysig dod o hyd i ffyrdd i ofalu amdanon ni ein hunain.

 

Dw i wedi creu fideo syml sy’n dangos ichi sut i dylino eich traed â phêl tenis. Sdim angen profiad arnoch chi, dim ond pêl tenis a bach o le.

 

Gobeithio y byddwch yn mwynhau