Gyda lleihad sylweddol mewn cwsmeriaid, megis archfarchnadoedd, bwytai ac ysgolion, mae’r galw am laeth wedi gostwng ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn fyd eang. O ganlyniad i hyn, does gan ffermwyr ddim i wneud ond taflu litrau ar litrau o laeth lawr y draen a cholli cyflog sylweddol. Er hyn, mae’r gwartheg yn dal i gynhyrchu llaeth sy’n golygu bod yn rhaid i’r ffermwyr barhau i odro a gweithio o fore gwyn tan nos, er gwaetha’r sefyllfa ariannol. Fel merch i ffarmwr godro, dwi’n dyst i waith diflino ffermwyr yn ddyddiol, ac yn gwerthfawrogi’r oriau o waith caled maent yn ymroi i gynhyrchu’r hanfodion sydd yn ein cypyrddau, o laeth i stecen i ddwsin o wyau.
Yn amlwg, nid pawb sydd yn ddigon lwcus i dystio hyn o ddydd i ddydd, ac nid pawb sy’n gwerthfawrogi’r diwydiant allweddol hwn. Felly, hoffwn gymryd y cyfle i godi ymwybyddiaeth ehangach am sefyllfa ein ffermwyr, hoelion ein cymdeithas, ar gefn fy meic drwy seiclo 400 milltir mewn 30 diwrnod ym mis Mai fel fy awr o ymarfer corff dyddiol. Byddaf yn gosod baneri i fyny yn ystod fy amryw deithiau o gwmpas yr ardal er mwyn iddynt weld gymaint rydym ni’n eu gwerthfawrogi.
Yn ystod eu bywydau, mae ffermwyr yn siŵr o gyrraedd nifer o isafbwyntiau, rhai sy’n hawdd i’w datrys, a rhai sy’n parhau am fisoedd. Anodd ydyw i ddychmygu’r straen sydd arnynt yn ystod yr adeg ansicr hon. Bydd y weithred o seiclo’n ddyddiol yn golygu bod hi’n bosib i mi deimlo mymryn o’r straen mae’r ffermwyr yn ei deimlo, efallai byddaf yn teimlo emosiynau tebyg, yn teimlo’n flinedig, eisiau rhoi’r gorau iddi, ond wrth i ddiwedd y cyfnod ddod ger bron, byddaf yn siŵr o deimlo llygedyn o obaith, yn gwmws fel ein ffermwyr, ond ar raddfa is o lawer wrth gwrs.