Sioe Tal-y-bont ar y We

Hanes Pwyllgor Sioe Tal-y-bont yn mynd ati i gynnal sioe wahanol

Betsan Siencyn
gan Betsan Siencyn
Sioe

Cyfarfod y pwyllgor ar Zoom

Uchafbwynt yr haf i nifer o drigolion Tal-y-bont a thu hwnt yw ein sioe flynyddol, ond dim ‘welis’ na sbectol haul fydd angen i fwynhau’r cystadlu eleni, ond ffôn neu laptop. Wedi i Covid-19 ein caethiwo i’n cartrefi, roedd gan bwyllgor Sioe Tal-y-bont benderfyniad i’w wneud: gohirio’r sioe tan y flwyddyn nesaf, neu geisio’i chynnal mewn ffordd a fyddai’n galluogi pawb i fwynhau a chymryd rhan yn ddiogel. Felly, yng nghanol mis Mai, cyhoeddwyd y byddai’r sioe yn cael ei chynnal ar y We, gyda’r bwriad o arddangos bywyd cefn gwlad, byd amaeth a chynnyrch yr ardal ar eu gorau.

Gallwch gystadlu mewn dros 100 o gystadlaethau o fewn 17 adran, megis adran y ceffylau, defaid, mêl, crefftau a gosod blodau; mae rhywbeth at ddant pawb! I gystadlu, ewch i’n tudalen Facebook ‘Sioe Talybont Ceredigion’ ac edrychwch ar ein fideo ‘sut i gystadlu’, sy’n esbonio sut i lenwi a chyflwyno’r ffurflenni ar-lein. Cofiwch edrych ar y rheolau, a chyflwyno’ch cynigion erbyn 17 Awst 2020. Bydd rhai cystadlaethau’n gofyn am luniau, tra bydd rhai adrannau angen fideos. Wedi i’r beirniaid feirniadu, cyhoeddir y tri uchaf ym mhob dosbarth ar ein tudalen Facebook ar ddyddiad gwreiddiol y sioe, sef 29 Awst, felly bydd modd i bawb weld y cynigion hyn. Ni fydd tâl cystadlu eleni, ond rydym yn codi arian tuag at Gylch Meithrin Tal-y-bont.

Felly, ewch ati i gystadlu, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl i faes y sioe y flwyddyn nesa!

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu ein tudalen Facebook:

Os hoffech gyfrannu tuag at y cylch meithrin, ewch fan yma.