Sioe Tal-y-bont yn cynnal cystadlaethau Adran y Mêl ar-lein

Nid dim ond gwenynwyr all gystadlu yn Adran Mêl Sioe Tal-y-bont eleni

Betsan Siencyn
gan Betsan Siencyn
Iestyn Hughes

Gwenyn yn gwledda

Efallai eich bod wedi sylwi trwy’r cyfryngau cymdeithasol fod Sioe Tal-y-bont yn cael ei chynnal ar-lein eleni. Rydym wedi ceisio gwneud yn siŵr fod pob categori wedi cael sylw rywsut yn y fformat eithaf anghyffredin hwn. Er enghraifft, mae’n anodd barnu safon potyn o jam neu flas cacen o ffotograff, ond mae’n bosib cael adran ‘mêl’ (er enghraifft), gyda’r dosbarthiadau canlynol ynddi:

ffotograff o unrhyw beilliwr

fideo o weithgaredd cadw gwenyn (hyd at 2 funud).

Gall unrhyw un roi cynnig ar y dosbarthiadau hyn – a’r dosbarthiadau eraill – cyhyd â’u bod wedi cystadlu yn unrhyw un o’r ddwy sioe flaenorol NEU yn byw yng ngogledd Ceredigion, i’r gogledd o afon Ystwyth.

Wrth reswm, does dim raid i chi fod yn wenynwr i roi cynnig ar y dosbarthiadau uchod, felly efallai y byddai gan aelodau eraill o’ch teulu ddiddordeb mewn cymryd rhan. Ac mae dosbarthiadau eraill yr hoffech chi eu hystyried hefyd o bosib (ffotograffiaeth/ adran anifeiliaid anwes/ celf a chrefft/ arddangosfeydd pobi/ gosod blodau).

Mae manylion yr holl ddosbarthiadau ar gael ar ein gwefan neu dudalen Facebook. Mae’r dudalen Facebook yn cynnwys fideo defnyddio ar sut i gystadlu, a bydd unrhyw newidiadau/ diweddariadau yn cael eu postio yno, felly cadwch lygad ar y dudalen hon!

Felly, beth am roi cynnig arni – yn adran y mêl, neu yn unrhyw un o’r dosbarthiadau eraill yn rhaglen y sioe?

DYDDIAD CAU DERBYN CYNIGION YW 17 AWST. 

Dymuniadau gorau a phob lwc!

Pwyllgor Sioe Tal-y-bont