Mae’n siapo… ond shwt all y wefan hon wella?

Be sy’n dda? Oes ’na rywbeth sy’n peri trafferth? Be’ sy angen nesa? Helpwch ni i wella BroAber360!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae datblygu gwefan newydd wrth ei defnyddio yn broses gyffrous, ac ry’n ni am i chi ein helpu i ddatblygu BroAber360 ymhellach.

Fe fyddwch wedi sylwi wrth ymweld â’r wefan hon dros y misoedd diwethaf bod nodweddion bach newydd yn ymddangos yn rheolaidd. Mae rhai yn ei gwneud hi’n haws i chi gyfrannu, a rhai yn anelu at roi mwy o hunaniaeth i’ch gwefan fro. Un o’r rhain yw eich eicon unigryw, wrth gwrs, o Bont Trefechan.

Gobeithio ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir wrth greu platfform defnyddiol  a hygyrch all wneud gwahaniaeth i’ch bro, i newyddiaduraeth leol ac i’r Gymraeg.

Nodweddion sy yma nawr

Dyma grynodeb o’r nodweddion sydd eisoes wedi’u creu – oll ar sail sgyrsiau a syniadau wrthoch chi, bobol y fro, dros y misoedd diwethaf:

  • modd i bawb sy’n byw yn lleol i greu cyfri fel brodor, er mwyn cyfranogi
  • sgwennu testun a lanlwytho lluniau, trwy ben cefn WordPress
  • creu blog byw
  • rhannu linc i fideo neu wefan allanol
  • dewis categori a thagiau i bob stori
  • straeon ‘poblogaidd yr wythnos hon’ ar yr hafan
  • gwirydd sillafu
  • calendr digwyddiadau
  • modd cyfrannu sylwadau i straeon eraill
  • botwm ’diolch’ am stori
  • botwm ‘rhannu’

Dyma syniad o rai o’r datblygiadau nesa:

  • cyfrannu oriel luniau o’r pen blaen
  • y calendr a’r 3 digwyddiad nesaf ar yr hafan
  • ffrwd o’r newyddion cryno diweddaraf
  • modd lanlwytho traciau sain
  • ystadegau eich straeon personol
  • bar chwilio

Casglu barn er mwyn gwella

Hoffen ni w’bod eich barn am y wefan hon.

Be sy’n dda? Oes ’na unrhyw beth sy’n peri trafferth wrth gyfranogi? Oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut mae gwella, neu pa nodweddion yr hoffech chi eu gweld yn y dyfodol?

P’un ai ydych yn ddarllenwr neu’n wyliwr, yn sgwennwr neu’n rhannwr fideos, yn olygydd neu’n dymuno ’diolch’ am ambell i stori’n unig – ry’n ni am glywed gennych. Ar ôl creu cyfri/mewngofnodi, nodwch eich sylwadau isod ?

Gyda’n gilydd, gallwn greu gwefan fro wych i ogledd Ceredigion!