Siafio gwallt i godi arian i’r GIG

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Cwpl o flynyddoedd yn ôl, roedd Emlyn o Fferm Moelifor, Llanrhystud yn sâl iawn gyda Streptococcus ar ôl dal brech yr ieir. Buodd yn Ysbyty Bronglais am bron i wythnos yn derbyn gofal arbennig gan yr holl staff. Wrth weld ar y teledu pa mor galed mae staff y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yn gweithio ar hyn o bryd yn helpu pobl sydd a Covid-19, roedd Emlyn am wneud rhywbeth i helpu ac i ddweud diolch iddynt am ofalu ar ôl pawb.

Penderfynodd y byddai yn siafio ei ben ac yn casglu arian trwy dudalen Just Giving, gyda’r arian i gyd yn mynd tuag at Apêl Covid-19 Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol Hywel Dda.

Felly ar ddydd Gwener, 17eg o Ebrill, fe wnaeth Louisa, Mam Emlyn, siafio ei ben! Mae e eisoes wedi codi dros £650 i’r gronfa ac mae Emlyn a’i deulu yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu.

Os ydych am gyfrannu i’r apêl gallwch wneud trwy’r dudalen Just Giving yma – www.justgiving.com/fundraising/Louisa-Evans1

 

1 sylw

Anna Gwenllian George
Anna Gwenllian George

helo! dwi yn cysylltu o raglen Aled Hughes ar radio Cymru. Byddai yn wych cael Emlyn a’i fam i sgwrsio yn slot aur y dydd y rhaglen. Tybed a oes modd i rywun gysylltu a mi er mwyn i mi geisio gael gafael ar Emlyn a’i fam. Fy ebost ydi anna.george@bbc.co.uk. Diolch o galon.

Mae’r sylwadau wedi cau.