Sgwrsio gyda Ceri, sylfaenydd y cwmni NATUR…

Daw Ceri o Langeitho ac mae ganddi gwmni cynnyrch gofal croen naturiol a chynaliadwy, NATUR. Dyma ychydig o’i hanes.

gan Miriam Glyn

Ar ôl dioddef gyda phroblemau croen am flynyddoedd, trodd Ceri at ddefnyddio cynnyrch gofal croen naturiol. Roedd yn cael trafferth dod o hyd i gynnyrch addas i’w chroen. Roedd yn anoddach fyth dod o hyd i gynnyrch gofal croen cynaliadwy.


Heb unrhyw gefndir yn y maes, aeth ati i greu ei chynnyrch ei hun, gan arbrofi gyda gwahanol gynhwysion.

 

“Lot o drial pethe mas, lot o trial and error. Fi di trial llwyth o gynhwysion fi ddim yn hoffi. Cymerodd hi rhyw flwyddyn o fi’n trial sdwff, profi ryseitiau ac wedyn cael y teulu a ffrindie i drial nhw mas cyn i fi dechre ‘u gwerthu nhw”

Bod yn wyrdd

Mae NATUR yn gwmni cynaliadwy, ac mae lles yr amgylchedd yn rhan greiddiol o’i ethos a’i egwyddorion.

“Rhan bwysig o’r busnes i fi yw bod e mor gynaliadwy â phosib felly fi’n ailddefnyddio stwff pacio, fi’n defnyddio gwydr, ac yn defnyddio cyn lleied o blastig â phosib.”

Problem fawr ym maes gofal croen yw marchnata camarweiniol a chwmnïau yn “gwyrddgalchu”, gan honni eu bod yn wyrdd er mwyn ennill manteision busnes.

“Mae pobl yn defnyddio’r gair ‘naturiol’, er enghraifft, heb unrhyw ystyr y tu ôl iddo fe. Yn yr un modd, mae pobl yn taflu’r gair ‘sustainable’ o gwmpas hefyd heb unrhyw ystyr y tu ôl iddo fe.”

 

Tueddiadau pobl yn newid

Mae pobl yn dechrau dod yn fwy ymwybodol o’r hyn maen nhw’n ei ddefnyddio ar eu croen, ac yn awyddus i wybod beth yn union sydd mewn cynnyrch.

“Un o’r rhesymau fi’n rhoi’r cynhwysion ar flaen y label yn hytrach nag ar y cefn achos ma fe’n rili bwysig i bobl wybod beth maen nhw’n ddefnyddio.”

“Dyw’r ryseitiau fi’n eu defnyddio ddim yn gymhleth iawn, mae cynhwysion syml da fi. Fi wastad yn canolbwyntio ar ddefnyddio pethe o’r safon ucha.”

Yn hytrach na defnyddio cynhwysion sy’n seiliedig ar ddŵr, mae cynnyrch NATUR yn cynnwys gwahanol olewon, rhywbeth sydd wedi dechrau dod yn boblogaidd iawn mewn cynnyrch gofal croen.

“Mae llwyth o bethe fel olew marula, er enghraifft, mae’n dod o Dde Affrica, a ti’n darllen am biti fe a mae llwyth o bobl di bod yn ‘i ddefnyddio fe am ganrifoedd.  Dim ond yn ddiweddar d’yn ni  yn y wlad hon ’di dechre defnyddio’r olewon gwahanol yma.”

 

Ar y gweill…

“Fy mwriad i yw gallu ail-ddefnyddio’r poteli. Mae’r facial oil gyda fi ar y funud yn cynnwys pipette, a ma ’chydig o blastig arno fe, ond cyn bo hir byddai’n lawnsio fersiwn o’r botel sydd gyda chaead alwminiwm. Gall pobl wedyn gadw’r pipette a’i ail-ddefnyddio.”

“Fi’n bendant ishe gweld mwy o’r refills yn mynd mewn i siope a datblygu mwy ohonynt. Beth sy’n neis eleni yw mod i di gweld mwy o bobl ifanc yn dechre gyda rwtîn gofal croen newydd ac yn dechre gyda stwff naturiol, fi’n bendant wedi gweld mwy o hynny.

“Fi ishe cadw gweld NATUR yn popo lan mewn mwy o siope a chario mlaen i ddatblygu. Bydd cwpl mwy o gynnyrch da fi’n dod mas blwyddyn nesa hefyd.”