Y saith llyfr tu ôl i Ar Drywydd Llofrudd, Alun Davies (Y Lolfa)

Y saith llyfr tu ôl i Ar Drywydd Llofrudd, Alun Davies (Y Lolfa)

William Howells
gan William Howells

Ar Drywydd Llofrudd, Alun Davies (Y Lolfa)

Ar Drywydd Llofrudd, Alun Davies (Y Lolfa)

“Nofel dditectif boblogaidd gyfoes a thywyll wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Mae’n adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Scandi sy’n boblogaidd tu hwnt ar hyn o bryd. Ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn y twyni mae ddau dditectif, Taliesin ac MJ, yn mynd ar drywydd y llofrudd” (Gwales)

Daeth llond festri ynghyd i gyfarfod mis Ionawr o Gymdeithas y Penrhyn, Penrhyn-coch i glywed Alun Davies, awdur Ar Drywydd Llofrudd, yn sôn am ei brofiad o sgrifennu ei nofel gyntaf. Yn enedigol o Benrhyn-coch, mae Alun bellach yn byw yng Nghaerdydd, ond dewisodd Aberystwyth, y dref lle y’i magwyd, fel lleoliad ei nofel.

Gyda chymorth lluniau o gloriau saith o lyfrau amrywiol llwyddodd i ddatgelu sawl peth amdano’i hun a sut yr aeth ati i sgrifennu’r nofel. Soniodd am bwysigrwydd lleoliad (megis yn nofelau Morse), saernïo plot (fel yn nofel Agatha Christie And Then There Were None) a sut i gyfleu gwahanol safbwyntiau ei ddau brif gymeriad a’u barn am ei gilydd (rhywbeth sy’n deillio o ddarllen nofel heriol Murakami, 1Q84).

Rhai o’r llyfrau tu ôl i Ar Drywydd Llofrudd

Cyfeiriodd hefyd at awduron megis Llwyd Owen, Guto Dafydd a Geraint Evans, y tri wedi cyfrannu mewn gwahanol ffyrdd i’w ysbrydoli ac i roi’r hyder iddo gysylltu â gwasg a chael cydweithio â golygydd.

Rhai o’r llyfrau tu ôl i Ar Drywydd Llofrudd

 

Mae Alun yn rhedwr profiadol ac mae’n edrych ar y profiad o sgrifennu nofel fel rhedeg marathon. Does dim troi’n ôl. Rhaid cadw i fynd nes cyrraedd y diwedd.

Mae Alun wrthi’n gweithio ar yr ail nofel o’i drioleg ac mi fydd hi mas erbyn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ym mis Awst. Edrychwn ymlaen yn eiddgar!