gan
Marian Beech Hughes
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2020/07/2-Osian-PPE-640x396.jpg?kh)
Osian James, wrth ei waith yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Brenhinol Gwent
Mae rhifyn haf 2020 o Gair o’r Garn, cylchlythyr Gofalaeth y Garn, wedi’i gyhoeddi. Mae’n cynnwys manylion y gwasanaethau a’r cyfarfodydd rhithiol sy’n cael eu cynnal, profiadau heriol rhai teuluoedd lleol yn ystod y cyfnod clo, a dewis rhai aelodau o gerddi a cherddoriaeth addas ar gyfer yr amser yma.