Hyd yn oed cyn yr argyfwng presennol roedden ni fel teulu fel nifer eraill yn ceisio siopa’n fwy lleol. Os ystyriwn yr holl fanteision;
- arian yn aros yn yr economi lleol;
- lleihau ar filltiroedd mae cynnyrch yn wneud cyn ein cyrraedd;
- cefnogi busnesau lleol;
- dewis cynnyrch lleol safonol.
Mae’n anodd dadlau yn erbyn hyn yn dydy? Ond serch hynny, rhai o’r prif resymau roeddwn yn methu yn fwy aml na pheidio i siopa’n lleol oedd cyfleustra – Mae’n rhy hawdd i ddod o hyd i bron pob dim yn yr archfarchnad, ac efallai pris.
Nawr yn y sefyllfa bresennol, mae hyd yn oed fwy o fanteision o siopa’n lleol enwedig pryd mae cyflenwyr fel Ymaichi ac eraill sy’n cynnig cludo’r nwyddau yn syth i chi (mae Ymaichi yn ogystal yn defnyddio siopau lleol fel Slaters i gynnig amrywiaeth o nwyddau blasus). Beth sydd fwy cyfleus na hynny?
Hoffwn felly rannu pryd syml wnes i wneud i’r teulu wedi’i wneud dim ond gyda nwyddau lleol, doedd dim rhaid i fi adael y tŷ i gael hyd i’r cynhwysion yma (ond i’r ardd i nôl perlysiau).
Stêc “AberGamon”
Cymhwyson
- Tatws – Ymaichi
- Stêcs Gamon – Penparcau Butchers
- Garlleg – Ymaichi
- Bresych – Ymaichi
- Olew Olewydd – Medina ar lein
- Halen Môr – Ultracomida
- Wyau a menyn – Sean Fitzpatrick (Dyn llaeth)
- Rosmari – Yr ardd
- sos coch – Ymaichi
Dull
Torri tatws mewn i giwbiau bach, rhowch nhw mewn sosban fawr lawn dŵr oer a dewch â fe i ferwi yn sydyn.
Torrwch y bresych mewn i stripiau a chadw mewn sosban sych yn barod at wedyn.
Wrth i’r dŵr ddechrau berwi tynnwch y tatws o’r dŵr a chynhesu padell ffrio gydag olew olewydd (3 llwy ford) gydag ychydig o fenyn i dymheredd canolog.
Ychwanegwch y tatws, parhewch i droi’r tatws nes eu bod nhw’n dechrau troi’n euraidd, ac ychwanegwch y rhosmari a’r halen. Y tatws sy’n cymryd yr amser hiraf i wneud (wnes i bennu’r tatws yn y ffwrn dan y gril). Gallwch gadw rhai yn dwym yn y ffwrn nes bod y stêcs wedi gorffen (tua 10 munud).
Rhowch bach o olew mewn padell ffrio (neu yn sych mewn un non-stick) ar dymheredd canolog a choginio’r stêcs am tua 5 munud ar bob ochr (wnes i ddim llwyddo cael y 2 stêc yn yr un padell felly wnes i wneud un ar y tro, sy’n cymryd mwy o amser obvs).
Cadwch y stêc yn gynnes wrth ffrio’r wy – i’ch dant (“easy over” i fi bob tro) a berwi’r bresych am 5 munud.
Gallwch ychwanegu tamaid o fenyn i’r bresych, a halen a phupur i’r tatws, dim byd gwell na sos coch gydag wy i mi (Ymaichi eto).
Fel teulu ‘da ni wedi ailddechrau bwyta cig ar ôl 3 mis heb gig, ond penderfynwn ni i ailddechrau gyda’r cig tra’n “lockdown”, dewisom ni Penparcau butchers am y cig ac maen nhw’n gwerthu pac cymysg cig sy’n para am bythefnos i ni.
Dan ni wedi bod yn cael llaeth ac ati gan Sean Fitzpatrick am dros 6 mis, ac mae’n wych i wybod fyddwch chi ddim yn rhedeg mâs o laeth yn enwedig gyda phlant yn y tŷ. Rydw i hefyd wedi derbyn bocs o gaws Cymraeg gan “the Welsh Cheese Company“.
O ystyried popeth, er bod siopa’n lleol yn fach mwy drud, ar ôl i chi ystyried faint o “peripheries” dach chi’n prynu wrth ymweld ag archfarchnad mae’n gweithio allan bron yn hafal am wn i. Mae hyn yn atgoffa fi o jôc:
Rhwystrau ar siopa yn archfarchnadoedd:
Morrisons – 3 tun o domatos 1 pecyn o bapur toiled y person
Tesco – 1 bag o flawd, 3 tun o domatos, un pecyn pasta y person
Lidl – 1 masc sgwba, 1 arc welder ac 1 garden swing hammock y person!
Roeddwn ni fel nifer o rai eraill wedi methu cael slot cludo gan y siopau mawr, a dwi’n diolch am hynny yn nawr, oherwydd bod prynu’n lleol yr un mor gyfleus (os nid fwy) ac mae cefnogi cynnyrch a busnesau lleol yn bwydo’r ysbryd yn ogystal â’r cnawd.
Gobeithio bydd y gwasanaethau yma yn goroesi ar ôl yr argyfwng presennol.
**hoffwn ychwanegu bod nifer o fusnesau eraill yn cynnig gwasanaeth cludo hefyd dydw i ddim wedi sôn amdanyn nhw oherwydd dydw i ddim wedi eu defnyddio eto**