Bydd darn newydd a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr, Andrew Cusworth, yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl cyflwyno’r cyfyngiadau symud yn cael ei berfformio am y tro cyntaf nos Wener 22 Mai mewn digwyddiad YouTube Première gan gôr cymysg o Aberystwyth, Côr ABC, a chôr merched Cymry Llundain, Côr Dinas.
Yn ôl ym mis Mawrth, bu’n rhaid i ymarferion côr wythnosol ddod i ben yn ddisymwth wrth i COVID-19 ledaenu o amgylch y byd ac wrth i lywodraethau gyflwyno cyfyngiadau ar bob agwedd ar fywyd bob dydd. Yn sgil hyn, fe ddechreuodd Côr ABC a Côr Dinas gwrdd ac ymarfer o bell, gan roi cyfle i’r aelodau gynnal eu cysylltiadau cymdeithasol, yn ogystal â pharhau i ganu a chreu cerddoriaeth. Fe ddaeth yr ymarferion hyn, eu hunain, yn ysbrydoliaeth ar gyfer darn corawl newydd a phrosiect côr rhithwir.
Ar ôl un o ymarferion Côr ABC, fe ysgrifennodd un o’r aelodau, y Prifardd Dafydd John Pritchard, englyn am y profiad a’i bostio ar Twitter. Ar ôl darllen y gerdd, fe aeth Andrew Cusworth, un o’i gyd-aelodau ac arweinydd Côr Dinas, ati i’w gosod i gerddoriaeth, gan greu darn i’r ddau gôr ei ganu gyda’i gilydd yn rhithwir.
Wrth siarad am ei ddarn newydd, yn un rhith, dywedodd Andrew: “Mae’r darn, sy’n seiliedig ar gerdd Dafydd, yn disgrifio’r ffordd rydyn ni i gyd, er o bell, yn dal i fod yn unedig yn ein nod, fel cymuned, o ganu – gan ddatgan ein bod ni’n gôr o hyd.”
Dros yr wythnosau diwethaf, mae aelodau’r ddau gôr wedi bod yn ffilmio’u hunain yn canu’r darn, ac mae’r holl fideos unigol yn cael eu gwau at ei gilydd i greu perfformiad côr rhithwir gan Robert Russell a fydd hefyd yn cyfeilio i’r corau yn y perfformiad.
Wrth fynd ati i roi’r prosiect ar waith, ein gobaith ni, fel tîm, oedd y bydden ni’n creu rhywbeth y byddai ein haelodau’n mwynhau ei wneud, a rhywbeth y bydd pob un ohonon ni’n gallu edrych ’nôl arno, rywbryd yn y dyfodol, i’n hatgoffa ein bod wedi gwneud rhywbeth positif mewn cyfnod anodd.
“Ymhlith yr holl resymau pam ein bod ni’n canu mewn corau mae’r effaith bositif ar ein hiechyd meddwl,” meddai Andrew Cusworth. “Wrth ryddhau perfformiad cyntaf fy narn newydd yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae’n ein hatgoffa bod cerddoriaeth yn rhan bwysig o’n bywydau ynddi’i hun, a’i bod hefyd yn bwysig i’n lles.”
Bydd perfformiad cyntaf yn un rhith gan gôr cyfun Côr ABC a Côr Dinas yn digwydd nos Wener 22 Mai am 7.00pm mewn digwyddiad première ar YouTube. Mae mwy o fanylion ar gael ar wefan y prosiect yn https://ynunrhith.cymru/