Mae cwrs newydd, sy’n rhoi cyfle i fusnesau a chyflogeion wella eu sgiliau cyfryngau digidol, bellach yn cael ei gynnal trwy raglen Cynhyrchu Cyfryngau Uwch Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r cwrs MSc Cynhyrchu Cyfryngau Uwch, sy’n cael ei gynnig yn Gymraeg ac yn Saesneg, wedi cael cefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru ac mae’n ffrwyth llafur cynllun amlddisgyblaeth unigryw rhwng yr adrannau Cyfrifiadureg, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Drwy gyfuno gwybodaeth ymarferol am raglennu cyfrifiaduron a chynhyrchu cyfryngau, y nod yw rhoi’r sgiliau ymarferol angenrheidiol i gyflogeion allu gweithio gyda thechnolegau digidol a chyfryngau uwch.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae lle i ymfalchïo yn y llwyddiant mae Cymru wedi ei gael yn y sector diwydiannau creadigol hyd yn hyn, fodd bynnag, mae’n hanfodol datblygu’r sgiliau technegol hyn a pharhau i ysbrydoli menter, ac uwchsgilio’r gweithlu presennol o ganlyniad i’r technolegau a chyfryngau digidol sy’n newid o hyd.
“Rydyn ni wedi ystyried busnesau ac unigolion wrth ddylunio’r cwrs MSc Cynhyrchu Cyfryngau Uwch fel ei fod yn hyblyg, yn hawdd ei gyrchu i’w ddysgu ar-lein ac y gellir ei gyfuno â gwaith ac ymrwymiadau eraill cyflogeion.
“Mae’r hyfforddiant achrededig lefel uchel hwn a’r arbenigedd ar y cyd rhwng adrannau Cyfrifiadureg, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu; a Hanes a Hanes Cymru’r Brifysgol yn fuddiol i fusnesau ac unigolion ac yn eu galluogi i fod yn fwy cynhyrchiol, cynaliadwy ac effeithlon.”
Gall cyfranogwyr un ai astudio, heb fod angen cymryd amser o’r gwaith, drwy’r rhaglen Dysgu o Bell ble caiff yr holl hyfforddiant ei ddarparu ar-lein, neu gallan nhw ddilyn y rhaglen Dysgu Gymysg sy’n gyfuniad o unedau ymarferol ac unedau ar-lein.
Mae’r ddau fath o ddull dysgu’n rhedeg am 12 wythnos gyda’r gweithdai byr dewisol yn para 1-3 diwrnod. Nid oes arholiadau i’w sefyll ar ddiwedd y cwrs, fodd bynnag, er mwyn gweithio tuag at gymhwyster Meistr llawn, bydd gofyn i’r cyfranogwyr ymgymryd â phrosiect ymchwil.
Un o’r sefydliadau sydd eisoes wedi cymryd mantais o’r cynnig hwn yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel yr eglura Annwen Isaac, Rheolwr Adnoddau Dynol y Llyfrgell:
“Rydyn ni’n ymwybodol bod angen hyrwyddo ein gweithgareddau drwy amrywiaeth o sianeli digidol ac mae’n ddisgyblaeth sy’n esblygu’n barhaus. Mae’r cyfle hwn i hyfforddi yn rhoi gwell offer a sgiliau i’n staff er mwyn iddyn nhw allu hyrwyddo gwaith y Llyfrgell ar blatfformau digidol mewn ffordd fwy creadigol ac arloesol, ac mae hefyd yn cyfrannu at eu datblygiad personol parhaus.
Drwy gefnogi ein staff wrth iddyn nhw astudio, rydyn ni’n hyderus y caiff ein hadnoddau ninnau eu cryfhau maes o law ac y byddwn ni hefyd yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau digidol gwerthfawr i’n tîm.”
Mae pob modiwl yn cynnwys tri bloc sy’n cael eu cyflwyno mewn rhaglen dreigl sy’n dechrau bob blwyddyn ym mis Chwefror, Mehefin a Hydref, gan roi cyfle i gyfranogwyr y cwrs gynnwys eu holl ddewisiadau modiwl.
Mae agwedd hyblyg y cwrs hefyd yn galluogi’r cyfranogwyr i ddechrau astudio pa bynnag fodiwl sydd fwyaf o ddiddordeb iddyn nhw ac astudio cynifer neu gyn lleied o fodiwlau ag yr hoffen nhw, naill ai fel rhan o’u Datblygiad Proffesiynol Parhaus neu i weithio tuag at amrywiaeth o gymwysterau ôl-radd.
Faint mae’n gostio a phryd gallaf ymgeisio?
Gan fod y cynllun wedi cael cefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, cynigir ffi ostyngol o £165.00 y modiwl i fusnesau neu aelodau o staff. Er mwyn elwa o’r gefnogaeth hon, gofynnir i ymgeiswyr cymwys wneud cais cyn 31 Ionawr 2023. Mae bwrsariaethau hefyd ar gael i helpu gyda theithio a gofalu am ddibynyddion.
Am ragor o wybodaeth am y rhaglen a’r meini prawf cymhwyso, cysylltwch â’r tîm Cynhyrchu Cyfryngau Uwch ar 01970 622643 neu ccu-amp@aber.ac.uk neu ewch i: amp.aber.ac.uk.