Playlist “Mas o Aber”

Yn eisiau – bandiau gyda chysylltiad ag Aberystwyth

Bwca (@bwcacymru)
gan Bwca (@bwcacymru)

Ychydig dros wythnos yn ôl, gosodwyd her #PlaylistBro gan Bro360, er mwyn annog brodorion ar draws y Gorllewin a’r Gogledd i greu rhestrau chwarae o gerddorion sydd yn gysylltiedig gyda’u bröydd gwahanol. Yn hynny o beth, mae Recordiau Bwca wedi derbyn yr her ar ran BroAber360.

O grwpiau sydd yn gysylltiedig gydag Ysgol Penweddig fel Race Horses, Sorela a Mellt i grwpiau a ffurfiwyd ym Mhantycelyn fel Y Blew, Mynediad am Ddim, Ysbryd Chouchen, mae Aberystwyth wedi gwneud cyfraniad sylweddol iawn i’r byd canu cyfoes Cymraeg. Yn fwy diweddar, mae enwau fel Rhys Gwynfor, Los Blancos ac Ynys yn dod yn fwyfwy cyfarwydd ar y tonfeddi ac mae artistiaid Recordiau Bwca sef Bwca a Ffion Evans wrth gwrs – pob un gyda chysylltiad gydag Aber.

Angen eich awgrymiadau chi

Os oes unrhyw awgrymiadau yna rhowch wybod ar y cyfryngau cymdeithasol (@bwcacymru) neu e-bostiwch bwcacymru@outlook.com.