Erthyglau gwych bob wythnos, da iawn Gruffudd Huw!
Roedd hi’n amlwg fod tywydd gwlyb a gwyntog yr Hydref wedi cyrraedd Coedlan y Parc gan fod y bws heb do (oedd yn dal y cefnogwyr tu ôl i’r gôl ar gyrion y maes) wedi’i gyfnewid am yr un arferol! Ar ôl chwarter awr o’r ail hanner, gydag Aber ar y blaen o gôl i ddim a Barri lawr i 10 dyn, roedd y rhagolygon yn edrych yn fwy heulog i Aber. Ond roedd cymylau duon ar y gorwel.
Daeth Aber i mewn i’r gêm wedi colli oddi cartref yn erbyn y pencampwyr Cei Connah 2-0 nos Fercher. Er y golled, cafodd amddiffyn Aber ei ganmol gan reolwr y tîm cartref. Er hynny, roeddent yn edrych ychydig yn sigledig ar ddechrau’r gêm erbyn heddiw.
Bu bron i’r Barri sgorio ar ôl dwy funud wrth iddynt daro’r trawsbren o groesiad peryglus. Deng munud yn hwyrach, bu bron iddynt sgorio eto wrth i Kayne McLaggon benio’r bêl yn erbyn y postyn. Aber oedd nesaf i fwrw’r trawsbren ar ôl i Steff Davies godi’r bêl dros ben Mike Lewis (golwr Barri) yn dilyn pasio hyfryd ar ôl 14 munud.
Prin iawn oedd y cyfleon i’r ddau dîm tan i hanner amser agosáu. Wedi 40 munud enillodd Aber gic rydd mewn safle addawol. Crymanodd Mathew Jones y bêl yn berffaith gan chwyrlio heibio wal Y Barri. Roedd y bêl ar fin cyrraedd cornel gwaelod chwith y rhwyd, ond er mawr siom i’r tîm cartref, deifiodd Lewis gan ymestyn ei fraich ac arbed y bêl. Felly roedd y gêm yn ddi-sgôr ar yr hanner.
Aber cafodd y dechrau gorau yn yr ail hanner. Gwobrwywyd y tîm cartref pedair munud wedi’r egwyl. Croesodd Jamie Veale y bêl i mewn i’r cwrt cosbi o gic rydd. Methodd amddiffyn y Barri i’w glirio a chyrhaeddodd y bêl Steff Davies. Wrth iddo syrthio i’r llawr, llwyddodd i droi ei gorff ac ysgubodd y bêl i gefn y rhwyd.
Y gôl oedd y catalydd i fywiogi’r gêm. O fewn chwe munud, tarodd yr hen ben David Cotterill (sydd â 24 cap i Gymru) y bêl yn galed o gic rydd. Gwirodd y bêl oddi ar y wal ond ymatebodd y golwr Connor Roberts yn gyflym a gwthiodd y bêl dros y trawsbren.
Ar ôl awr roedd Barri lawr i ddeg dyn. Anfonwyd Clayton Green o’r cae wedi tacl hwyr ar Miles John (newydd ymuno o Hwlffordd). Roedd y gêm yn nwylo Aber nawr.
Yn hytrach na gwanhau’r ymwelwyr, taniodd y cerdyn coch y dynion o’r de. Saith munud ar ôl colli chwaraewr, roedd Barri yn gyfartal. David Cotterill unwaith eto gymrodd y gic rydd. Fflachiodd y bêl heibio pawb yn y cwrt cosbi heblaw am McLaggon. Roedd marcio llac wedi rhoi digon o le iddo benio’r bêl at y postyn pellaf a sgorio i ddod a’r Barri’n gyfartal.
Tair munud yn ddiweddarach roedd y bêl yng nghefn y rhwyd unwaith eto. Y tro yma, clirio gwael oedd ar fai. Casglwyd y bêl rydd gan ganol cae’r Barri cyn ei basio i Jordan Cotterill i redeg tuag at y gôl. Er i Connor Roberts ruthro allan mor gyflym ac y gallai, nid oedd yn gallu arbed ergyd yr ymosodwr. Buddugoliaeth arall i dîm profiadol Y Barri – y pedwerydd o’r bron.
Er y canlyniad siomedig, dim ond gwella gwneith y tîm ifanc wrth i’r tymor mynd yn ei flaen ac wrth iddynt ennill fwy o brofiad.
Mi fydd dynion Gavin Allen yn gobeithio bydd y canlyniad yn well nos Fawrth wrth iddynt ddychwelyd i’r gogledd ddwyrain i wynebu Derwyddon Cefn.