gan
Manon Elin
Mae’n gyfnod anodd sy’n llawn ansicrwydd a phryder, ac mae’n hawdd iawn cael ein llethu gan bopeth. Dyma rai awgrymiadau am bethau bach allai eich helpu yn ystod y cyfnod hwn:
- Cofiwch mai dim ond cyfnod yw hyn. Bydd yn pasio ac fe ddaw dyddiau gwell. Bydd y cyfnod hwn yn ein hatgoffa i beidio â chymryd dim yn ganiataol eto ac i werthfawrogi’r pethau bychain.
- Cadwch mewn cysylltiad. Dyma un o’r pethau pwysicaf ar hyn o bryd, ac mae’n haws nag erioed o’r blaen i wneud hyn, er enghraifft drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu, ac i ail-gysylltu, â phobl.
- Edrychwch ar ôl eich hun, a gwnewch hyn yn flaenoriaeth. Byddwch yn garedig i’ch hun a gwnewch beth bynnag y gallwch chi wneud i godi eich calon. Peidiwch â rhoi pwysau ar eich hun i gyflawni pethau ac i fod yn gynhyrchiol.
- Rhannwch sut chi’n teimlo, ac anogwch eraill i wneud yr un peth. Mae’n bosib y byddwch chi’n sylweddoli eich bod yn rhannu gofidiau tebyg. Cofiwch nad chi yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn. Mae pawb yn yr un sefyllfa.
- Ysgrifennwch am sut chi’n teimlo. Does dim rhaid i chi ei rannu, ond gall fod o gymorth i gael popeth allan.
- Gwnewch y mwyaf o’r pethau sy’n aros yn gyson: y môr, darllen, gwrando ar gerddoriaeth, gwylio rhaglenni rydych chi fel arfer yn eu gwylio.
- Chwiliwch am y pethau bach positif ym mhob diwrnod. Mae pethau da yn dal i ddigwydd yng nghanol hyn i gyd.
- Cymrwch bethau un dydd ar y tro.
- Cofiwch ei fod yn iawn i deimlo sut bynnag ydych chi’n teimlo. Gadewch i’ch hun deimlo’r emosiynau anodd yn hytrach na cheisio brwydro yn eu herbyn.
- Sylwch ar yr holl bobl sy’n barod i helpu eraill.
- Chwaraewch gemau ar-lein gyda ffrindiau, e.e. Words with Friends a gemau ar Facebook.
- Ystyriwch hyn fel cyfle i wneud y pethau chi wastad wedi bod eisiau eu gwneud ond heb gael yr amser, fel darllen, gwylio cyfres deledu, dechrau hobi newydd, dysgu iaith.
- Gwnewch restrau o’r pethau bach sy’n gwneud i chi wenu, y pethau chi’n ddiolchgar amdanyn nhw a phethau i edrych ymlaen atyn nhw pan fydd hyn drosodd.
- Rhowch gynnig ar ymarferion myfyrio syml, fel Ap Cwtsh.
- Peidiwch â chymharu eich hun gyda phobl eraill. Mae amgylchiadau pawb yn wahanol ac rydyn ni gyd yn ceisio ymdopi yn ein ffordd ein hun.
- Canolbwyntiwch ar y pethau rydych chi yn gallu eu gwneud i helpu – golchi eich dwylo, aros gartref, cynnig helpu rhywun.
- Sefydlwch drefn feunyddiol newydd, fel codi a mynd i’r gwely, a bwyta prydau bwyd, tua’r un amser bob dydd.
- Ewch allan am dro. Ni’n lwcus yn ardal Aberystwyth i gael digon o lefydd agored a thawel. Os nad yw hynny’n bosib, agorwch y ffenestri i gael awyr iach.