Perfformiad Arwrol gan Aber

Aberystwyth 2 – Y Seintiau Newydd 2, 16/10/2020

gan Gruffudd Huw
DSC_0924_edited-1

Roedd hi’n noson i’w chofio wrth i Aberystwyth ennill pwynt yn erbyn tîm gorau’r gynghrair. Cyn ymweld â Choedlan y Parc, nid oedd y Seintiau wedi colli pwynt nac ildio gôl yn ystod y tymor hyd yma. Yn ychwanegol, roedd dau o brif chwaraewyr Aber (Connor Roberts a Louis Bradford) ddim yn cael chwarae gan eu bod ar fenthyg o’r Seintiau.

Dyma berfformiad gorau Aber gartref y tymor yma. Roedd pob chwaraewr yn ymdrechu cant y cant wrth amddiffyn ac yn cymryd y cyfleoedd prin i wrthymosod. Dwi’n siŵr, er y blinder, fod cryn ddathlu yn ystafell newid Aber ar ôl y gêm. Dyma gêm roedd y gwybodusion yn disgwyl i’r Seintiau ennill yn gymharol hawdd.

Dechreuodd y gêm fel y disgwyl. Roedd yr ymwelwyr o Groesoswallt yn rheoli ac roedd Aber angen brwydro i gadw’r bêl allan o’r rhwyd – gyda help y postyn. Bu cyfleoedd cynnar i’r ymwelwyr gan Kwame Boateng a Leo Smith. Er hyn, Aber ddaeth agosaf i sgorio wrth i’r Seintiau chwarae pas beryglus ar draws y cwrt ond arbedodd Harrison i gadw’r sgôr yn gyfartal.

Parhaodd y pwysau gan yr ymwelwyr wrth i’r hanner cyntaf fynd yn ei flaen ac ar ôl 36 munud fe’i gwobrwywyd gyda gôl. Gorymdeithiodd y Seintiau i fyny’r cae’n llawn hyder. Ergydiodd Greg Draper o ymyl y cwrt chwech ond fe wnaeth Pennock, golwr ifanc Aber, yn dda i’w atal. Yn anffodus i’r tîm cartref, ymatebodd Louis Robles yn gyflym i’r bêl rydd ac fe sgoriodd. Bu bron i’r ymwelwyr ddyblu’r sgôr ond roedd y postyn yno i arbed Aber unwaith eto. Ar ddiwedd yr hanner cafodd dau o chwaraewyr y Seintiau gerdyn melyn ac un o Aber.

Yr ymwelwyr oedd yn rheoli dechrau’r ail hanner hefyd. Tair munud ar ôl yr egwyl, daeth Pennock i’r adwy gydag arbediad anhygoel i gadw’r tîm cartref yn y gêm. Gwthiodd ergyd Harrington dros y trawsbren ac roedd Aber yn dal yn y gêm, er holl feddiant y Seintiau.

Ar ôl 64 munud, enillodd Aber gic rydd ar yr asgell dde. Croeswyd y bêl gan Jamie Veale tuag at y postyn pella’ at Jonathan Foligno. Neidiodd Foligno uwchben yr amddiffynnwr a peniodd yn bwerus. Hedfanodd y bêl heibio’r gôl geidwad ac i gornel dde’r rhwyd. Roedd Aber yn gyfartal!

Newidiodd y gôl fomentwm y gêm a chyn pen dim roedd Aber ar y blaen! Dim ond tair munud roedd rhaid aros i weld Steff Davies yn carlamu tu ôl yr amddiffyn ac i lawr yr asgell dde cyn sgorio o ongl anodd. Mawr oedd y dathlu ar y cae a’r cefnogwyr tu allan i’r cae.

Dechreuodd yr ymwelwyr bwyso unwaith eto ond roedd Steff Davies yn parhau i wneud rhediadau peryglus y tu ôl i linell amddiffynnol y Seintiau. Ar ôl 73 munud o chwarae, codwyd y bêl dros amddiffyn yr ymwelwyr tuag at Steff Davies. Rhedodd i mewn i’r cwrt cosbi unwaith eto. Trodd heibio’r amddiffynnwr gan ei sgwario i Owain Jones. Gyda hanner y gôl yn wag, llusgodd Jones y bêl yn llydan. Cyfle euraidd i Aber.

Roedd hi’n amlwg mae’r Seintiau oedd y tîm proffesiynol – roedd y lefelau ffitrwydd yn anhygoel ac roedd y pasio yn gywrain. Ar ôl 83 munud, cafodd yr ymwelwyr eu gôl haeddiannol. Roedd y gôl yn debyg i beniad Foligno gyda’r bêl yn cael ei chroesi tuag at y postyn pellaf a Ben Clarke y tro yma yn penio ’nôl ar draws y gôl.

Er iddynt sgorio i ddod yn gyfartal, roedd y Seintiau eisiau mwy ac mi fu bron iddynt ddwyn y triphwynt gyda munud o’r 90 yn weddill. Pennock ddaeth i’r adwy unwaith eto. Mawr oedd rhwystredigaeth y Seintiau a chafodd Holland o’r Seintiau ei anfon o’r maes wedi ei ail gerdyn melyn am dacl wael ar Veale.

Ar ôl tair munud o amser ychwanegol, er mawr ryddhad i Aber, chwythodd y dyfarnwr ei chwiban. Perfformiad gwych gan y tîm ifanc heb ddau o’i chwaraewyr pwysicaf. Er bod pwynt yn bwysig, bydd y perfformiad hefyd yn codi hyder y tîm ar gyfer y gêm oddi cartref yn erbyn Caernarfon ddydd Sadwrn nesaf (yn fyw ar S4C).

Cyn y gêm cafwyd munud o dawelwch er cof am Tony Payne, un o selogion y clwb. Mae llu o deyrngedau iddo ar dudalen Trydar clwb Aber.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.