Y Pencampwyr yng Nghoedlan y Parc

Aberystwyth 1 – 3 Cei Connah, 04/12/2020

gan Gruffudd Huw
Aber v Cei Connah

Hewitt yn paratoi ar gyfer y gic o’r smotyn

Daeth Cei Connah i Aberystwyth ar rediad da, dim ond wedi colli un gêm o’r tymor hyd yma a hynny mewn gêm agos yn erbyn y Seintiau Newydd. Mae’n rhaid dweud felly, nad oedd hi’n edrych yn addawol iawn i Aber, yn enwedig ar ôl iddynt golli i Hwlffordd mewn gêm ganol wythnos.

Dechreuodd y gêm fel y disgwyl – Cei Connah yn rheoli. O fewn y 10 munud cyntaf roedd yr ymwelwyr yn edrych yn beryglus iawn. Roedd croesiadau’r asgellwyr yn bwydo’r ymosodwr Mike Wilde. Er y bygythiad, roedd Roberts yn edrych yn gyfforddus yn y gôl ac roedd yr amddiffyn yn ennill sawl cystadleuaeth yn yr awyr gyda Foligno’n amlwg.

Bu bron i Aber fynd ar y blaen ar ôl iddynt ennill cic rydd. Crymanodd Hewitt y bêl yn berffaith dros y wal, ond modfeddi dros y gôl.

Ond 8 munud yn ddiweddarach roedd yr ymwelwyr ar y blaen gan ddechrau gyda phêl uchel dros yr amddiffyn i’r asgellwr chwith Danny Davies. Roedd ei gyffyrddiad cyntaf yn berffaith gan reoli’r bêl gyda’i frest ac yna gyda chyffyrddiad gyda’i droed roedd heibio Jack Rimmer ac i mewn i’r cwrt cosbi. Daeth neb o’r canol i’w gau lawr a phasiodd Davies y bêl rhwng coesau Roberts ac i mewn i’r rhwyd.

Ni adawodd Aber y gôl i’w heffeithio’n ormodol, a 5 munud yn ddiweddarach enillon nhw gic rydd arall mewn safle addawol. Unwaith eto dyma Hewitt, prif fygythiad Aber, yn crymanu’r bêl mymryn yn llydan.

Rheolodd Cei Connah weddill yr hanner gydag Aber yn brwydro’n hynod o galed i glirio’r bêl o hanner eu hunain. Er hyn, arhosodd yr amddiffyn yn gadarn gan roi ychydig o obaith i’r tîm cartref ar gyfer yr ail hanner.

Dechreuodd yr ail hanner yn debyg i’r cyntaf gyda Chei Connah yn rheoli ac Aeron Edwards yn saethu’n llydan ar ôl 3 munud.

Roedd yn rhaid i Aber wneud y mwyaf o’r cyfleoedd prin, a dyna’n union beth wnaeth Steff Davies ar ôl 55 munud. Gweithiodd yn galed i ddwyn y bêl oddi wrth Morris yn y cwrt cosbi ac wrth iddo groesi baglwyd ef gan Morris. Cic o’r smotyn i Aber. Hewitt unwaith eto gymrodd y gic, ond y tro yma sgoriodd gan osod y bêl yn berffaith yn ochr chwith y rhwyd.

4 munud yn ddiweddarach dyma ergyd i obeithion Aber. Anfonwyd Owain Jones o’r cae gan y dyfarnwr yn dilyn tacl ar ymyl y cwrt a’i ymateb geiriol i’r swyddogion! Aeth pethau’n waeth i Aber ychydig wedyn wrth i’r amddiffynnwr profiadol, Jonathan Foligno, adael y cau gydag anaf. Roedd Aber nawr yn wynebu hanner awr o amddiffyn yn erbyn un o dimau gorau’r gynghrair gyda 10 dyn.

Roedd Cei Connah nawr yn pwyso’n ddi-baid gyda’u hasgellwyr yn amlwg. Mae’n rhaid canmol amddiffyn Aber wrth iddynt gwympo’n ddwfn a chywasgu yn y cwrt. Roedd hi’n anodd i’r ymwelwyr ffeindio mannau gwan.

Er yr amddiffyn cadarn, ildiodd Aber gôl siomedig gyda 9 munud yn weddill. Methodd Aber glirio’r gic gornel ac adlamodd y bêl i Wilde i sgorio.

Seliwyd y fuddugoliaeth i’r ymwelwyr 2 funud yn ddiweddarach gyda Wilde yn sgorio ei ail trwy wirio croesiad o’r asgell dde i’r rhwyd.

Mi fydd Aber yn gobeithio dringo’r tabl gyda 3 gêm gartref yn olynol. Fydd y cyntaf o’r rhain yn gêm galed yn erbyn Y Bala, ond bydd rhaid targedu buddugoliaethau yn erbyn Y Drenewydd a Chaernarfon.