Penblwydd Hapus Bryan yr Organ

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Peth braf yw clywed nodau’n llifo’n gelfydd o offeryn. Dros y blynyddoedd mae Bryan yr Organ wedi diddanu cynulleidfaoedd lawer gyda’i feistrolaeth hynod o allweddau’r organ. Mae’n fwy o syndod pan ystyrir mae ar y glust ddibynna Bryan gan nad yw’n darllen nodau hen nodiant. Gall ddilyn sol ffa ac yn aml gwelir darnau bach o bapur a chyfres o lythrennau arnynt o’i flaen er mwyn procio’r nodau o’r meddwl. Mae’n yntau a’i organ yn gyfeillion, yn deall ei gilydd i’r dim ac yn llenwi’r lle a bwrlwm o sain bob amser. Gwasgir botwm fan hyn, botwm fan draw, cyn bo’r bysedd yn bwrw’r allweddau a’r hud ar gychwyn. Pleser yw gwrando ar ei ddatganiadau bywiog a’i gyfeiliant hwyliog.

Ydi mae Bryan yr Organ wedi bod yn diddanu ers degawdau a heddiw mae’n cyrraedd carreg filltir nodedig wrth droi’n 70 oed. Nid yw am gynnal parti arferol ar ddiwrnod ei benblwydd ond digwyddiad llawer mwy addas – gymanfa ganu!  Mi fydd Eglwys St Deiniol, Llanddeiniol yn cael ei llenwi a sain yr organ, canu cynulleidfaol a nodau peraidd yr artistiaid.

Beth sy’n neud emyn da? Yn ôl Bryan ma pob un a’i ffansi ond iddo fe mae’n rhaid i’r emyn gydio yn yr enaid a’r dôn briodi’n berffaith gyda’r geiriau. Os yw e eisiau ei chwarae hi drosto a drosto gannoedd o weithiau, mae’n gwybod bod hi’n un dda. Dyw e methu dewis yr UN emyn yna sy’n sefyll mas dros bob un arall ac mae wedi bod yn dipyn o her iddo dynnu rhestr fer o 15 i raglen y gymanfa.

Edrychwn ymlaen at ddod ynghyd prynhawn ma yng nghwmni Bryan i ddarganfod pa emynau sydd wedi cyrraedd y 15 uchaf. Lisa ei ferch fydd yn ein harwain drwy’r emynau a bydd Vernon Maher yn diddanu ynghyd a CFfI Llanddeiniol a CFfI Felinfach. Mi fydd Daniel Smith hefyd yn cyfeilio i ambell emyn fel bo Bryan yn gallu mwynhau’r canu. Croeso cynnes i chi gyd ymuno â ni i godi’r to yn Eglwys St Deiniol, Llanddeiniol prynhawn ma am 5pm.

Penblwydd Hapus Bryan!