Papur Sain Ceredigion: dathlu’r 50 mlynedd

Papur Sain Ceredigion yn dathlu’r 50.

William Howells
gan William Howells

Papur Sain Ceredigion

Dathlu’r 50 yn yr Amgueddfa

Nos Wener 13 Mawrth 2020, daeth 40 o wirfoddolwyr ac wyth o wahoddedigion o dde Cymru ynghyd mewn noson gymdeithasol i ddathlu 50 mlynedd Papur Sain Ceredigion, y cyntaf o’i fath yn y DU.

Croesawyd pawb wrth ddrws Amgueddfa Ceredigion gan falŵns llawn-heliwm yn cyhoeddi’r 50 ac roedd diod yn eu haros ar y llofft. Addurnwyd y byrddau gan flodau’r camellia a grug gwynion ar lieiniau cochion y byrddau crwn. Arnynt oedd arwyddion Braille yn cyhoeddi ‘dathlu 50 mlynedd’, hyn am fod Sarah, Cydlynydd yr Amgueddfa wedi eu trefnu gan gwmni argraffu Braille PIA, Cwmbrân. Paratowyd swper ardderchog dau-gwrs gan chef y café Lewis Wright.

Wedi swper, cafwyd areithiau amrywiol. Soniodd y prif westai a’r cyn-Gadeirydd William Williams, sut y trefnodd ddigideiddio’r Papur Sain 10 mlynedd yn ôl; siaradodd Rhiain Lewis, cyn-Gadeirydd arall ac wedyn Tony Charles, Cadeirydd SWTMA (South Wales Talking Magazine Association) am ei brofiad yn gweithio i gwmni Clarke and Smith, cyflenwyr yr offer cyntaf oll yn Aberystwyth yn 1970.  Daeth Bryn Lloyd, cyn-Gadeirydd a’i fab Aled, a Sue, Ken a Peter o SWTMA, Caerdydd. David Griffiths, Ymddiriedolwr, a’i wraig June fu’n tynnu ffotograffau i’r cyfryngau cymdeithasol. Danfonodd y cyn-Gadeirydd David Lloyd, Geraint Thomas, Ymddiriedolwr a oedd yn Seland Newydd ar y pryd, Luned Gruffydd a Jane Guest, cyn-wirfoddolwragedd, Medi James,  negesau yn ymddiheuro am eu habsenoldeb.  Darllenwyd llythyr llongyfarch a chyfraniad hael gan y cyn-wirfoddolwyr Elizabeth a Telfryn Pritchard. Evesham, a llythyr yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth gan Julia Morgan. Rhannwyd y gacen ddathlu hardd o waith Eluned Evans, Pontarfynach oedd yn dangos logo’r cartwnydd Huw Aaron ‘Papur Sain Ceredigion ers 1970’.

Talwyd teyrngedau arbennig i ddau a fethodd fod yn bresennol ac a gyfrannodd more hael i’r Papur Sain: Eileen Sinnet Jones, fu’n darllen yn y Gymraeg ers 1970, ac sy’n parhau i wneud; a Richard Hopkins, dyblygydd recordio ers 25 mlynedd. Eurwen Booth, y Cadeirydd presennol, a fu’n arwain y noson, gan herio mewn cwis byr bawb i gofio rhai digwyddiadau ac enwogion o’r 1970au.  Rhannodd rysait golchydd dwylo (sanitiser alcohol 60%) a gafodd gadarnhad ei effeithlonrwydd gan feddyg teulu a chyn-wirfoddolwraig oedd yn bresennol. Diolchwyd i bawb am noson lwyddiannus mewn amgylchiadau gynyddol anodd.