Owain yn annerch Merched y Wawr Aberystwyth

Owain Schiavone, un o Gyfarwyddwyr Golwg a Rheolwr Bro360, yn annerch Merched y Wawr Aberystwyth

gan merchedywawr

Sut mae Bro360 yn cael ei newyddion? At bwy mae Selar yn cael ei anelu? Sut mae cadw brwdfrydedd i redeg? Dyma rai o’r cwestiynau y cafwyd atebion gan Owain Schiavone, Rheolwr Bro360.

Nos Lun yr 20fed o Ionawr, croesawodd cangen Aberystwyth o Ferched y Wawr y Flwyddyn Newydd gydag araith gan Owain. Mae Owain yn byw yn Aberystwyth gyda’i wraig a thri o blant, ond a bywyd hynod o brysur fel rhedwr, golygydd cylchgrawn y Selar, heb sôn am reoli cynllun Bro360.

Mae cangen Aberystwyth yn cwrdd ar y drydedd nos Lun o bob mis yng Nghapel y Morfa, Morfa Mawr.

Yn nhymor Hydref 2019, croesawyd y llenor Heiddwen Tomos (Medi), dathlu Pen-blwydd Aur y Gangen (Hydref), creu cardiau Nadolig gyda Ruth Jen (Tachwedd) a chinio Nadolig ym Mhlas Nanteos (Rhagfyr).

Yn 2020, mae’r aelodau yn edrych ymlaen at: –

  • Chwefror 17 – Dathlu Gŵyl Ddewi ac edrych ymlaen at Eisteddfod 2020 yng nghwmni Hywel Wyn Edwards;
  • Mawrth 16 – Catrin M.S. yn holi mamau a’u merched yng nghyfnod Sul y Mamau;
  • Ebrill 20 – Ymweliad â gorsaf Y Lein Fach;
  • Mai 18 – Cyfarfod Blynyddol y Gangen a sgwrs gan Fioled Jones am yr elusen Coda Ni;
  • Mehefin 15 – Gwibdaith.

Beth am wneud adduned Blwyddyn Newydd i ymuno?

http://merchedywawr.cymru/cangen/aberystwyth/