Nofio drwy’r pandemig

Cynnydd yn nifer trigolion Aberystwyth sy’n profi budd nofio yn nŵr oer y môr 

Megan Turner
gan Megan Turner
nofio1

Nofiwr ym mae Aberystwyth ym mis Tachwedd

nofio-3

Dau nofiwr yn Aberystwyth, mis Tachwedd

salty-dipsSalty Dips

Criw Salty Dips

nofio4

Nofwyr yn Aberyswyth, mis Tachwedd

Wrth feddwl am Aberystwyth mae’n siŵr fod y rhan fwyaf o bobl sy’n gyfarwydd â’r dref yn meddwl am y prom a’r môr, asgwrn cefn a ffin arfordirol y dref. Mae’r prom yn safle pererindod reolaidd i lawer, yn le saff i gerdded, loncian a chymdeithasu, ac i fwynhau’r machlud mewn tywydd da. Ond eleni mae nifer rheiny sy’n cael eu temptio i’r môr yn fwy nag erioed, gyda’r olygfa o’r prom yn aml yn cynnwys criw o nofwyr yn y bae, a nifer y nofwyr eleni yn sylweddol uwch nag yn y gorffennol.

Rhwng Mawrth 23ain a’r 1af o Fehefin, yn ystod y clo mawr cyntaf, doedd dim hawl defnyddio’r môr yng Nghymru ar gyfer unrhyw weithgaredd hamdden, megis nofio neu syrffio. Y rheswm pennaf am hyn oedd y byddai galw ar y bad achub neu achubwyr bywyd traeth (Lifeguards) petai angen achub rhywun o’r môr yn cynyddu’r posibilrwydd o ledaenu’r firws Cofid-19, ac o bosib yn rhoi mwy o straen ar y gwasanaethau iechyd.

Bu rhaid i’r RNLI, sy’n darparu’r gwasanaeth bad achub ac achubwyr bywyd yn genedlaethol, addasu’u darpariaeth a’u gweithgareddau ers i’r firws ddod yn broblem yn y DU, gan ddirwyn eu holl hyfforddiant i stop ym mis Mawrth ac ail-strwythuro’u gwasanaeth traeth dros yr haf. O ganlyniad darparwyd gwasanaeth achub bywyd ar 70 o draethau’r DU dros haf 2020, yn hytrach na’r 240 o draethau sy’n manteisio ar y gwasanaeth mewn blynyddoedd arferol.

Er hynny, wedi i’r gwaharddiad ar ddefnyddio’r môr godi ar Fehefin y 1af, ymddangosodd lluoedd o bobl ar draethau ardal Aberystwyth, a llwythi ohonynt yn manteisio ar y rhyddid i nofio yn y môr. Ond nid yn unig dros fisoedd yr haf y gwelwyd y duedd yma, gan fod llawer o nofwyr yn parhau i fwynhau bae Ceredigion hyd heddiw, yn nyfroedd rhewllyd mis Tachwedd.

Mae tymheredd dŵr y môr yn Aberystwyth yn cyrraedd tua 15˚ celsius ar ei uchaf, ac yn gostwng i dymheredd o 7 ˚ celsius dros y gaeaf, felly yn bell o fod yn drofannol!

Felly beth sy’n denu pobl i nofio yn y môr? A pa fudd sydd i’r gweithgaredd?

Un criw sydd wedi dechrau nofio yn rheolaidd yw “Salty Dips”, yn ôl eu cyfrif Instagram, a gychwynnwyd ym mis Hydref gan fyfyrwraig o’r enw Emilia a’i dau ffrind, sydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r criw yn cwrdd bob bore ar draeth Aberystwyth i nofio cyn dechrau eu diwrnod. Dyweda Emilia bod nifer y rheiny sy’n mynychu yn parhau i gynyddu o wythnos i wythnos, er iddi aeafu, ac erbyn hyn mae Salty Dips yn cynnwys pobl leol yn ogystal â myfyrwyr. Yn eu mysg mae dau sydd wedi hyfforddi fel achubwyr bywyd, ac eraill sy’n newydd i nofio yn y môr ac wedi prynu wetsuit yn arbennig er mwyn cymryd rhan yn y dip dyddiol.

Yn ôl Emilia daeth yr arfer yn rheswm iddi a’i ffrindiau godi yn y bore, gan roi strwythur i’w diwrnod a chynnig dihangfa iddynt yn ystod ansicrwydd y pandemig.

“Mae’r môr yn le i ni adennill ein callineb. Heb geisio swnio fel cliché, mae’n rhoi cyfle i ni anghofio’r hyn sydd ar ein meddwl.”

Mae nofio mewn dŵr oer yn cynnig nifer o fanteision iechyd, gan gynnwys gwella metaboledd y corff, gwella cylchrediad gwaed, lleddfu straen a lleihau teimladau o iselder.

Mae’n amlwg fod sgil-effeithiau’r pandemig wedi bod yn sioc ac yn anodd ar lawer o bobl am resymau amrywiol, gyda llawer o sôn am yr effaith ar iechyd meddwl, a’r elusen Mind yn amcangyfrif fod nifer y bobl yng Nghymru a Lloegr sydd wedi dioddef iselder wedi dyblu ers dechrau’r pandemig. Ond mae’r pandemig hefyd wedi arwain at newidiadau ym mhatrymau byw a gweithio cymdeithas, gan arwain pobl i ail-ymgymryd yn eu diddordebau, dod i fanteisio’n fwy ar eu milltir sgwâr a dechrau gwneud mwy o ymarfer corff er mwyn gwarchod eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Ar ben hynny, mae’n debygol fod y lleihad mewn darpariaeth clybiau nos a thafarndai wedi newid arferion byw a chymdeithasu rhai myfyrwyr, gyda chwrdd nofio boreol criw Salty Dips yn arwyddocaol o hyn.

Yn Aberystwyth, mae’r cynnydd yn nifer y nofwyr sydd i’w gweld yn arwydd pendant o’r newid yn agwedd ac arferion rhai pobl,  ac yn dangos gwerth rhoi’r hawl i bobl ddefnyddio’r môr yn ystod y cyfnodau clo, gan ei fod yn un ffordd weithredol o helpu gwarchod iechyd meddyliol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

*Os cewch eich temtio i nofio yn y môr dros fisoedd y gaeaf dilynwch argymhellion yr RNLI am nofio mewn dŵr oer ac mewn dŵr agored:
– byddwch yn ymwybodol o’r peryglon, y llanw ac amodau’r dŵr.
– gwisgwch wetsuit a dyfais arnofio.
– nofiwch gyda phartner.