Newyddion o fyd dysgu Cymraeg

Allwch chi helpu ein dysgwyr i ymarfer siarad Cymraegt?

Cêt Morgan
gan Cêt Morgan

Roeddwn i’n sefyll o flaen dosbarth o ddysgwyr oedd hanner ffordd trwy’r flwyddyn gyntaf o ddysgu pan ddaeth y neges drwodd ar y 17eg o Fawrth. “Mae croeso i chi orffen eich gwers heddiw, ond o hyn ymlaen ni fydd y dosbarthiadau’n cwrdd. Rydym yn gobeithio bydd modd ailddechrau’r dosbarthiadau erbyn yr haf.”

Yr wythnos wedyn cynhaliais fy nosbarth rhithiol cyntaf ar Zoom, oedd yn rhywbeth cwbl newydd i mi – a phob tiwtor Cymraeg arall, am wn i.

Bu’n rhaid i ni, y tiwtoriaid, a’r dysgwyr fynd i’r afael â’r dechnoleg newydd ar frys, ond pan mae wir angen gwneud rhywbeth, mae modd ei wneud e, ac erbyn hyn mae pawb wedi cyfarwyddo â’r “ystafelloedd breakout” (ystafelloedd cwrdd ar wahân? Rwy’n siŵr bod term gwell ar gael yn Gymraeg!), sut mae rhannu sgrin a “chat”.

Er syndod imi, roedd bron pob un o’r dysgwyr yn awyddus i gario ymlaen, ac fe ddaeth ambell un newydd aton ni.

Fe aeth yr haf, wrth gwrs, a doedd dim modd cynnal stondinau recriwtio yn yr archfarchnadoedd fel arfer. Y gobaith oedd y gallem ddychwelyd i’r ystafelloedd dosbarth erbyn y Nadolig, ond erbyn hyn, yn y cyfnod rhyfedd sydd ohoni, pwy a ŵyr?

Mae hi wir yn galonogol gweld cymaint o ddysgwyr brwdfrydig yn dysgu’r iaith ac yn darganfod hanes a diwylliant ein gwlad.

Cefnogi dysgwyr – y Cynllun Siarad

Tybed a oes hanner awr gyda chi bob hyn a hyn i helpu rhywun sy’n dysgu Cymraeg? Rydyn ni’n cynnig cynllun gwirfoddol o’r enw Siarad i’n dysgwyr ni, sef cynllun i baru dysgwyr a siaradwyr rhugl. Mae’r parau yn cwrdd i sgwrsio am bob math o bynciau – y nod yw neilltuo deg awr dros gyfnod o chwe mis, ond nod yw hyn.

Yn wyneb yr argyfwng iechyd a’r gaeaf yn agosáu, sy’n ei gwneud yn anos cyfarfod y tu allan, rydym yn edrych am wirfoddolwyr sy’n barod i helpu trwy gael sgwrs dros y ffôn neu ar Zoom, Skype, Whatsapp, Messenger ac yn y blaen. Os bydd yr argyfwng iechyd yn newid yn sylweddol, bydd yn bosib trafod cwrdd wyneb yn wyneb.

Os teimlwch eich bod yn gallu helpu, ydy hi’n bosib i chi gofrestru yma os gwelwch chi’n dda?

https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/siarad/

Ein rhanbarth Dysgu Cymraeg ni yw Ceredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin. Byddwn yn cael hyd i bartner i chi mor fuan â phosib.

Bydd y dysgwyr sy’n cofrestru ar y cwrs hwn i gyd yn gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg, o leiaf. Bydd rhai ohonyn nhw yn eithaf rhugl. Fydd dim dechreuwyr o gwbl. Meithrin yr hyder i siarad yw’r nod.

Am fwy o wybodaeth ac i holi unrhyw gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â fi’n uniongyrchol (cyfeiriad e-bost: riv1@aber.ac.uk).

Richard Vale, Tiwtor Dysgu Cymraeg, Prifysgol Aberystwyth