Does dim ardal o FroAber360 sydd mor ddiarffordd â Chwm Hengwm a Chwm Gwarin (neu Gwm Gwerin fel y gelwir ar y mapiau OS).
I gyrraedd yma, mae angen i chi droi o’r A44 ym Mhonterwyd am lun Nant-y-moch. Fel yr ydych yn cyrraedd y grid gwartheg ger y llyn, trowch i’r dde yn hytrach na tuag at yr argae.
Bydd angen parcio, a cherdded tuag at adfail Maesnant, hen ffermdy, a fu’n ganolfan wyliau am gyfnod. Dilynwch y llwybr (all fod yn wlyb) gan ddilyn y llyn, ac yna’r afon tan cyrraedd at Nant Y Llyn. Fe wyddom o gofnodion prosiect Cynefin mai Richard Davies oedd yn ffarmio yma yn 1836, mae’r nant yma yn dod o Lyn Lygad Rheidol ac felly yn cael ei ystyried yn darddiad yr afon Rheidol.
I gael hanes yr ardal, troais i lyfr Cledwyn Fychan “Nabod Cymru” sydd yn adrodd hanes brwydr Hyddgen: –
Ym 1401, daeth byddin o bymtheg cant o Fflandrysiaid Dyfed i ymladd Owain Glyndŵr yn ddirybudd. Roedd gan Owain lai o ymladdwyr, ond fe adawodd ddau gant ohonynt yn fawr ar y mynydd. Tu hwnt i fynydd Hyddgen, nepell o afon Hengwm Cyfeiliog, mae Siambr Trawsfynydd. Dywedir mai yma y cysgai Owain a’i filwyr pan amgylchynwyd ef gan y milwyr. Wrth odre Banc Llechweddmor, ganllath o afon Hyddgen, mae dwy garreg wen a elwir yn Gerrig Cyfamod Owain Glyndŵr.
Mae’r gofgolofn i frwydr Hyddgen ger argae Nant-y-moch, ond mae safle’r wir frwydr yn debygol o fod fwy i’r Gogledd. Dyma’r gofgolofn a ddadorchuddwyd gan Gwynfor Evans.
Trowch i’r dde o Nant y Llyn gan gerdded drwy lwybrau’r Pantau’r Brwyn (ardal wlyb iawn), cyn cyrraedd Hengwmannedd, lle mae corlan a thŷ, sydd yn dal a ffrâm y gwely.
Rhai digon diniwed oedd yn byw yn Hengwmannedd fel y tystia’r stori yma yn “Nabod Cymru”
Tua dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, aeth dau fab Hengwmannedd i lawr i ffair Machynlleth. Ar eu ffordd, gwelsant lwyth o faip ar fuarth fferm. ‘Roedd y maip yn newydd i’r ardal a dyma’r tro cyntaf iddynt eu gweld. Esboniodd y ffermwr mai wyau caseg oeddynt a’i siarsio i’w cadw’n gynnes er mwyn i’r ebolion ddeor.
Anghofiodd y ddau bopeth am y ffair, a throi am adre gyda’r maip dan eu ceseiliau. Fel roedd un yn cymryd egwyl ar ben y llechwedd, roliodd un o’r maip gan daro ‘sgwarnog ar ei gwar nes iddi neidio.
“Diawl” meddai “dacw’r ebol bach wedi dod!”
Oddi yma, fe welwch Gwm Gwarin ar yr ochr dde, a rhaeadr afon Gwarin rhwng Llechwedd y Buarth a Lluest y Graig. Fe gofnodwyd enw’r cwm fel Cwm Gwerin mewn camgymeriad ar fapiau’r Ordnance Survey yn y 1970. Ystyr Gwarin neu Gwaren yw darn o dir sy’n fagwrfa i gwningod, ac o weld y cwm, gellir deall pam y gallai hynny fod yn wir.
Mae Craig yr Eglwys o’ch blaen – mynydd caregog sydd yn edrych fel pen eglwys.
Yng ngeiriau Cledwyn Fychan: –
Saif hon ar y llechwedd y tu ôl i luest Hengwmannedd yn y fforch rhwng afon Gelligogau ac afon Gwarin. Y mae’n debyg iddi gael yr enw am fod ei phen yn bigfain fel pinacl eglwys yn hytrach na bod eglwys wedi sefyll yno. Islaw’r graig, mae tomen fawr o gerrig a elwir yn Dy’r Ffeirad. O ben y domen, fe welwch fod cell fechan wedi’i naddu yn y graig a llarwydden ifanc yn tyfu o’u gwaelod. Gerllaw ond yn llawer anod dod o hyd iddi, mae Ffynnon yr Esgob. Ni fydd dyfroedd hon na’r ffrwd sydd yn rhedeg ohoni i afon Gelligogau fyth yn rhewi.
O droi i’r chwith wrth Hengwmannedd, fe welwch olion Lluestnewydd, fferm oedd a thenantiaid tan ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Fe fydd afon Hengwm yn eich anfon i flaen Hafren, Carn Fach Bugeilyn ac Esgair Fuwch Wen.
Hanner ffordd rhwng Hengwmannedd a Bugeilyn mae Gelligogau, yr enw (yn ôl Angharad Fychan yn y Tincer) sy’n gyfuniad o’r elfennau celli ‘coed’ a ffurf luosog cog ‘y gwcw’ sydd yn brawf fod coed yn tyfu flynyddoedd yn ôl. Dyma gofnod ei thad, Cledwyn: –
Yn Hydref 1705, roedd Rolant Wmffre, bugail ifanc a Catrin, ei wraig feichiog yn byw yn Lluest Gelligogau. Aeth Catrin i Fachynlleth, a gollodd ei ffordd wrth ddychwelyd mewn storm o fellt a tharanau. Bu Rolant a mwynwr oedd yn lletya yno yn chwilio’r mynydd trwy’r nos. Daethpwyd o hyd iddi’r bore trannoeth ar waelod Llechwedd Grin, lle’r oedd basged a chlogyn Catrin yn gorwedd yn y gors. Credai’r hen fugeiliaid fod ysbryd Cati Wen, fel y byddent yn galw, yn crwydro’r gors ar nosweithiau stormus ac ni feiddient fynd yn agos at adfeilion yr hen luest rhag ei hofn.
Trowch wrth Nant Lluest Fach, heibio Foel Uchaf, a ddaw a chi i flaen Afon Hyddgen, fydd yn eich arwain yn ôl at Nant y Llyn, a Nant-y-moch. Ond da chi, cofiwch eich wellingtons a does dim pontydd i groesi’r afonydd!
O ben Banc Lluestnewydd – dylech allu gweld yr olygfa yma: –
Byddwch yn ofalus o’r gwartheg gwych a hynod ar eich taith. Mwynhewch y cerdded.