Mynd am dro

Trigolion pentref Llanddeiniol yn mynd am dro i fwynhau golygfeydd godidog ar ddiwrnod braf o Fedi.

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Yfory bydd rheoliadau newydd yn dod i rym ar draws Cymru ond parhau fydd yr hawl i hyd at 30 o bobl gwrdd tu allan. Heddiw aeth criw o drigolion pentref Llanddeiniol am dro gyda’i gilydd i fwynhau golygfeydd godidog ein milltir sgwâr a chlonc gyda chyfeillion.

Mae’r nos yn tynnu ati’n syndod o gyflym a phwysig iawn yw gwneud y mwyaf o’r diwrnodau braf prin yma i ddod ynghyd a chymdeithasu. Gall y gaeaf fod yn hir dan warchae’r firws ond mi fydd yn rhaid i ni fod yn greadigol wrth feddwl am ffyrdd i barhau i gynnal gweithgarwch ein pentrefi. Yn fwy na dim er lles ein iechyd meddwl gan sicrhau fod cyfleon i bobl ddod ynghyd i siarad, gweld pobl amrywiol a mwynhau cwmni eraill.

Dewch i ni obeithio fod cyfnod o dywydd ffafriol ar y gorwel a daw haf bach Mihangel i gynorthwyo pawb i gynnal gweithgareddau awyr agored am damed eto.