Myfyrwyr Pantycelyn yn gwneud y gorau o’r cyfnod clo

Pedwar bachgen yn siafio’u gwalltiau ar gyfer elusen Ymchwil Canser Cymru

gan Ifan Wyn Erfyl Jones

Cai Pugh, Gethin Ray, Will Davies a Gethin Richards

Mae myfyrwyr Pantycelyn, fel gweddill Cymru, wedi gorfod aros adref yn ystod y cyfnod clo byr. Ond fe wnaeth criw o hogiau ddarganfod rhywbeth cyffrous i’w wneud yng nghanol yr holl ddiflastod: siafio’u gwalltiau! Er nad yw’n ymddangos fel syniad call iawn ar ddechrau’r gaeaf, chwarae teg iddynt, roedd ar gyfer achos da, sef elusen Ymchwil Canser Cymru.

Mae’r elusen yn bwysig iawn i un o’r criw gan iddo fynd drwy driniaeth ar gyfer lewcemia fel bachgen ifanc. Llwyddodd yr hogiau i hel cannoedd o bunnau ar gyfer yr elusen wrth iddynt siafio’u gwalltiau yn gyfan gwbl yr wythnos diwethaf. Fe wnaed y siafio’n fyw ar y platfform ffrydio byw, Twitch.

Dywedodd Gethin, oedd yn rhan o’r criw, “Roedd yn dipyn o hwyl cael edrych yn dwp o flaen ein ffrindiau.”

“Roeddwn yn teimlo’n oer ar y dechrau ac roedd yn od iawn edrych yn y drych i weld pen moel a minnau wedi arfer cael gwallt.

“Rwyf yn fwy na hapus i wneud rhywbeth tebyg eto ac yn siŵr y dylai pobl ifanc wneud ymdrech i helpu i godi arian at elusennau.”

Mi fydd y criw yn dioddef yn oerni’r wythnosau nesaf ond yn sicr maent wedi gwneud y gorau o sefyllfa anodd iawn drwy gyfrannu at achos da.