Myfyrdod ac Oedfa: Geiriau i’n Cynnal

Myfyrdod ac oedfa: Geiriau i’n Cynnal

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

GEIRIAU I’N CYNNAL: SUL MAWRTH 22ain, 2020 [Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.]

Anwyliaid yr Anwel:

“Duw Gyda Ni”

Y mae lledaeiniad carlamus haint y Coronafeirws bellach yn achos pryder a dychryn i gynifer ac ymhlith ymdrechion y Llywodraeth i geisio lleihau ei effeithiau andwyol cyflwynwyd nifer o fesuriadau canllaw. Yn eu plith mae cyfyngiad ar ein symud a’r anghenraid i ymgadw rhag cyfarfod mewn niferoedd lluosog er ceisio llesteirio trosglwyddo’r haint i eraill. Yn sgil hynny derbyniwyd cyfarwyddyd gan y llysoedd enwadol y dylem roi heibio oedfaon y Sul am gyfnod amhenodol ac er bod hynny wedi bod yn benderfyniad anodd y mae’n benderfyniad doeth yn wyneb sefyllfa enbydus.

Er na fedrwn gyfarfod mewn oedfa, nid yw hynny yn ein gwahardd rhag rhannu â’n gilydd o gylch y Gair mewn defosiwn a myfyrdod wythnosol trwy gyfrwng y We. Rwy’n mawr obeithio y bydd hynny’n help ac yn fodd i’n cynnal mewn dyddiau anodd.

Ar hyd coridorau amser daw acenion y llais a glywyd gan bobl Dduw dro ar ôl tro. Llais ydyw sy’n llefaru i ganol ein hamseroedd cythryblus, yn llais i greu hyder ynom ac i gadarnhau’n ffydd. Y llais sy’n mynegi’r neges oesol: “Yr wyf fi gyda chwi.”

Pan fydd cymaint o bethau mewn bywyd yn ein herio a’n hanesmwytho, pan ddaw siom i fwrw’n hechel a gofid i’n hamgylchynu, os gwnawn wrando’n ddigon astud fe glywn acenion yr addewid sy’n treiddio i ganol ein sefyllfaoedd a’n hamgylchiadau: “Yr wyf fi gyda chwi.”

Pan fydd ein cynlluniau yn methu cyflawni’r disgwyl a’n trefniadau arferol heb gwrdd â’r gofyn. Pan fydd ofn mewn calon a chyfyngiadau bywyd yn llesteirio’n byw, os gwnawn wrando’n ddigon astud cawn glywed y llais sy’n cyhoeddi: “Yr wyf fi gyda chwi.”

Bu acenion y llais hwnnw’n ddigon i ddwyn hyder ac argyhoeddiad i rhai o gymeriadau’r Beibl. Rhoes i Isaac ymgeledd rhag dychryn:

“Myfi yw Duw Abraham dy dad; paid ag ofni, oherwydd yr wyf fi gyda thi.” (Genesis 26:24)

Yn ddigon i gysuro Jacob yn ei wewyr: “Wele yr wyf gyda thi, a chadwaf di pa le bynnag yr ei, ac ni’th adawaf nes imi wneud yr hyn a ddywedais.” (Josua 1:5)

Yn ddigon i Jeremeia yng nghanol ei ansicrwydd a’i gaethiwed: “Paid ag ofni o’u hachos, oherwydd yr wyf fi gyda thi i’th waredu,” medd yr Arglwydd. (Jeremeia 1:8)

I ddisgyblion dyddiau’i oes, ac yn yr un modd i’w ddisgyblion ym mhob oes, fe erys addewid Iesu Grist: “Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd.” (Mathew 28:20)

Y mae’r dweud hwnnw’n sefyll, yn addewid y medrwn ymddiried ynddo yn awr ac i bob yfory newydd a ddaw i’n rhan.

Sut bynnag y mae arnom heddiw, mi fydd ein ffydd a’n hymddiriedaeth yn Nuw ac yn addewidion ei Air yn fodd i’n cynnal.

Trwy bob storm a thywydd garw,

Trwy bob gwynfyd pur a ddaw

Mi fydd Ef yn siwr o gynnal

A’n cysgodi rhag pob braw;

Ac wrth gerdded ʼmlân i’r ʼfory

Sydd â’i lwybrau eto’n ddu –

Fe rydd oleuni, fe rydd oleuni

Fy Arglwydd cu.  (P.M.T.)

Bendith Duw a’i ymgeledd a fyddo i’n rhan.

DARLLENIAD:

Llyfr Josua Pennod 1 adnodau 10–18

Salm 139

Mathew Pennod 28 adnodau 16–20

GWEDDI:

Agor ein llygaid i’th weled Iesu a’n clustiau i glywed dy Air. Agor ein meddwl i synhwyro dy bresenoldeb a’n calon i’th dderbyn a’th garu. Ynghanol anobaith estyn inni obaith. Ynghanol tristwch estyn inni dy gysur a’th dangnefedd. Lle mae afiechyd a phryder estyn inni dy ymgeledd, lle mae dial ac atgasedd estyn dy gariad a lle y cyfyd balchder dysg inni addfwynder. Lle mae gwacter ystyr a diffyg cred – rho inni ffydd.

Gwarchod ni ac arwain ni i ymddiried ynot fel Immaniwel – “Duw gyda ni” ac i ddwyn clod a mawrhad i’th enw. Maddau i ni ein camweddau.

“O tyred, Olau’r Seren Ddydd, diddana ein calonnau prudd

O gwasgar ddu gymylau braw a chysgod angau gilia draw.”

Amen.

Arwydd o’r Gwanwyn yn amlwg