Mwynwyr a Mwyngloddio yng ngogledd Ceredigion

Sgwrs gan Ioan Lord am hanes Mwyngloddio yng ngogledd Ceredigion

William Howells
gan William Howells

Gwaith Mwyn a Mwyngloddio yng Ngogledd Ceredigion

Cafwyd cyflwyniad gwybodus, clir a chyffrous gan Ioan Lord yng Nghyfarfod Cymdeithas y Penrhyn nos Fercher 19 Chwefror yn Festri Horeb, Penrhyn-coch.

Ioan Lord

Dechreuodd ei ddiddordeb yn y gwaith mwyn pan oedd yn blentyn bach yn cerdded ardal Cwm Rheidol yng nghwmni ei dad.

Gan ddefnyddio lluniau pwrpasol adroddodd hanes cloddio mwyn o’r dechreuadau yn ystod Oes y Rhufeiniaid. Soniodd am dwf y diwydiant yn ystod y 16eg, 17eg a’r 18fed ganrif, gan ddisgrifio bywyd caled y mwynwyr a’u teuloedd, yn cynnwys y gwragedd a’r plant.

Nid ymchwil o lyfrau a dogfennau yn unig oedd gan Ioan. Mae ef a’i ffrindiau yn gyfarwydd â’r ardal ac yn abseilio i berfeddion daear i chwilio am olion y diwydiant. Dyma rai o’r darganfyddiadau maent wedi dod o hyd iddynt yn ddiweddar:

Rhai o’r creiriau sydd wedi dod i’r golwg

Mae’n waith arloesol, ond peryglus, a’r canlyniadau yn hynod werthfawr i’r hanesydd lleol.

Roedd clywed am olion y cloddio ym mhentref Tal-y-bont tu ôl i’r ‘Black’ yn agoriad llygaid i’r rhan fwyaf ohonom.

Gwelir ffrwyth ei ymchwil mewn llyfr diweddar: Rich Mountains of Lead: The metal mining industry of Cwm Rheidol and Ystumtuen (2018).

‘Rich Mountains of Lead’, gan Ioan Lord

Os hoffech ddilyn Ioan ar daith i ddarganfod olion y gwaith mwyn drosoch eich hun ewch i wefan ANTURON MWYN GORLLEWIN CYMRU:  https://www.midwalesminetours.com/?lang=cy

Mae ganddo ffrwd o fideos diddorol hefyd ar Youtube. Dyma un esiampl: