Ar yr 28ain o Chwefror, adroddwyd bod yr achos cyntaf o Goronafirws wedi’i recordio yng Nghymru, yn ardal Abertawe. Daeth hyn fel ychydig o sioc i mi, ond parheais gyda fy mywyd a pharatoi am yr arholiadau yn yr haf. Doedd y posibilrwydd o ganslo’r arholidau ddim wedi croesi fy meddwl.
Roedd pethau’n symud yn araf. Roedd y nifer yr achosion wedi aros yn isel iawn am tua pythefnos, ond ar y 10fed o Fawrth cyhoeddwyd bod naw mwy o achosion wedi profi’n bostif, gan dod â’r cyfanswm ledled Cymru i 15. Penderfynais fy mod i’n mynd i greu rhywbeth gweledol i ddangos y data. Y diwrnod wedyn, ar ôl ychydig o chwarae gyda PowerPoint a MS Paint, fe wnes i greu tabl a map syml iawn i’w roi ar Snapchat, Instagram a Twitter. Edrychai fel hyn:
Roedd hyn yn hobi a dim byd mwy, ond dechreuodd y sleidiau dynnu sylw. Y penwythnos ar ôl creu’r sleid cyntaf, ffrwydrodd y nifer o bobl oedd yn dilyn fy nghyfrif Twitter, gyda bron 700 o bobl newydd yn dilyn. Nid oeddwn yn sylweddoli hyn ar y pryd, ond roedd pobl yn meddwl fy mod i’n gwneud ‘gwasanaeth cyhoeddus’. Wrth gwrs, doeddwn i ddim yn meddwl amdano fel hyn – dim ond hobi oedd o.
Roedd y sylw newydd (a’r amser ychwanegol gyda’r ysgol ar gau) wedi fy arwain i newid dyluniad yr holl sleid, felly ar y 27ain o Fawrth, newidiodd y sleidiau i edrych fel hyn:
Roedd y postiau yn cynnwys graffiau, ond erbyn hyn maen nhw wedi mynd.
Y diwrnod wedyn, penderfynais brynu enw parth a chreu gwefan gyda’r holl ddata mewn un lle, gyda graffiau a map rhyngweithiol mewn fformat hawdd i bobl ei ddarllen. Ar y 29ain o Fawrth, cyflwynais fy ngwefan (https://coronaviruscymru.wales/) ar fy nghyfrif Twitter. Ar y diwrnod cyntaf, ymwelodd dros 4,200 o bobl â’r wefan – rhif anhygoel.
Dros yr wythnos ar ôl cyflwyno’r wefan, dilynodd dros 2,500 o bobl fy nghyfrif Twitter. Roedd y sylw ychydig yn llethol, ond dim gormod i stopio fi. Erbyn hyn, rydw i’n diweddaru’r wefan bob dydd am tua 2 o’r gloch, a chyhoeddi’r sleidiau yn fuan ar ôl hynny. Mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel, gyda llawer o bobl yn gweld fy ngwaith i – crwt ysgol o Aberystwyth – yn well na gwaith y llywodraeth, sy’n rhyfedd iawn!
Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio cael graddau da yn fy nghanlynidau TGAU, ac rwy’n gobeithio gwneud lefelau A mewn bioleg, daearyddiaeth, cymdeithaseg a ffiseg. O ran fy ngyrfa, dydw i ddim yn siŵr beth dwi eisiau ei wneud, ond rwy’n gobeithio mynd i’r brifysgol ac, yn y dyfodol pell, cael swydd dda.