Meirion Appleton – Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2020

Meirion Appleton i arwain Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2020

Siôn Jobbins
gan Siôn Jobbins
Meirion Appleton

Meirion Appleton – Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2020

Meirion Appleton, yr hyfforddwr a’r trefnydd pêl-droed  fydd Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 29 Chwefror 2020. Mae Meirion yn adnabyddus i bobl y dre a Chymru gyfan am reoli rhai o’n clybiau pêl-droed amlycaf gan gynnwys Tref Aberystwyth gan ennill Cwpan Cymru gyda Bangor. Mae hefyd yn adnabyddus fel un sydd wedi hyrwyddo’r Gymraeg trwy gydol ei yrfa ym myd y bêl.

Magwyd Meirion ar fferm Tafarn-crug-isaf a mynychodd Ysgol Gynradd Capel Seion ac yna Ysgol Uwchradd Dinas, Aberystwyth. Mae wedi gweithio fel mecanic, gwerthwr peiriannau i ffermwyr Ceredigion yn llyfrgell y sir cyn mynd i fyd busnes a sefydlu Canolfan Chwaraeon a chwmni Ffigar.

Dechreuodd ei yrfa bêl-droed yn hyfforddi timau yng nghynghrair iau Aberystwyth yn yr 1970au. Daeth yn Reolwr CPd Tref Aberystwyth rhwng 1981-90 ac yna rhwng 1995-99. Enillodd Gwpan Cymru fel Rheolwr CPd Dinas Bangor yn nhymor 1999-2000. Mae wedi gweithio i ymddiriedolaeth pêl-droed Cymru mewn perthynas â CPd Tref Aberystwyth a Chynghrair Ieuenctid y dref ond mae ei ddylanwad ar ddatblygiad pêl-droed i’w weld ym mhob cwr o Gymru. Wrth wneud hynny cariodd gydag ef ei gariad at Gymru a pharch tuag at yr iaith Gymraeg.

Mae bellach yn byw yn Llanarth gyda’i wraig Gret. Mae’n dad i Gari a Ffion ac yn dad-cu i Tomos, Elin a Lleucu sy’n byw yn lleol ac i blant Ffion, Siôn a Dylan sy’n mynychu Ysgol Gymraeg Llundain. Bydd yr wyrion yn cerdded gydag ef yn y Parêd.

Meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth.

“Mae Meirion wedi sicrhau bod y Gymraeg wastad yn cael lle teilwng ym myd pêl-droed yn lleol ac yn genedlaethol. Er bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn amlwg iawn yn ei chefnogaeth a’i defnydd o’r Gymraeg heddiw, nid dyna oedd yr agwedd nôl yn yr 1980au a’r 90au. Yn y cyfnod hwn roedd Meirion wastad yn awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg a rhoi bri iddi a’i wneud yn iaith naturiol yn y gymuned bêl-droed.

Rydym hefyd yn diolch i Meirion am ei gyfraniad fel gŵr busnes i’r dref – ef yw sefydlydd y siop Ffigar lle mae cynifer o glybiau chwaraeon lleol yn cynhyrchu eu crysau. Mae’r cwmni yn defnyddio’r Gymraeg yn naturiol wrth farchnata a rheolwr y cwmni bellach yw Gari, mab Meirion.”

Meddai Meirion:

“Bydd arwain y Parêd yn fraint a phleser. Roedd yn syrpreis hyfryd ac annisgwyl. Mae’n anferth o anrhydedd. Rwy’n cofio cerdded o Gapel Seion i Aberystwyth lawer gwaith i wylio gemau yn yr 1950au. Fy mreuddwyd oedd bod yn Hyfforddwr y clwb bryd hynny – ac roedd yn anrhydedd cael y fraint honno. Doeddwn i byth yn meddwl y baswn i’n cael yr anrhydedd yma o fod y Tywsydd ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mae Aberystwyth a’r iaith yn meddwl llawer i fi.”