Penwythnos cyntaf Mehefin, ac er fod camau gofalus cyntaf yn cael eu cymryd i ryddhau rhywfaint ar y cloi mawr, mae’r gymuned redeg yn dal i ddyfalu ynglŷn â phryd bydd y cyfle nesaf i rasio.
Ar hyn o bryd, mae Athletau Cymru wedi gwahardd unrhyw weithgarwch athletau ffurfiol nes diwedd mis Mehefin o leiaf, gan gynnwys rhedeg mewn grŵp neu gynnal ras yn yr ystyr traddodiadol. I lawer o redwyr clwb, y cyfle i gymdeithasu a hyfforddi gyda ffrindiau ydy apêl mwyaf y gamp, ond rydym bellach yn methu gwneud hynny ers dros ddeuddeg wythnos.
Er nad oes unrhyw rasio traddodiadol wedi digwydd ers diwedd mis Mawrth, mae tipyn o gyfleoedd wedi bod i rasio’n ‘rhithiol’ dros y misoedd diwethaf.
Er bod technoleg yn aml yn cael ei weld fel peth sy’n dwyn gormod o sylw rhedwyr erbyn hyn, mae wedi bod yn fendith o safbwynt rhyngweithio ymysg rhedwyr dros y cyfnod yma. Mae apps sy’n defnyddio technoleg GPS fel Strava a Garmin yn galluogi rhedwyr i rannu eu gweithgareddau, a hyd yn oed rasio gan ddefnyddio’r data fel tystiolaeth o’u pellter ac amser.
Dros yr wythnosau diwethaf mae Athletau Cymru wedi trefnu dwy ras swyddogol dros 1 milltir a 5k, ac mae nifer o drefnwyr amgen wedi cynnal cystadleuthau tebyg hefyd.
Ras gyfnewid uchelgeisiol
Mae rhai wedi manteisio ar y cyfleoedd rasio rhithiol yn fwy nag eraill, ac mae’n deg dweud fod y math yma o weithgarwch yn apelio’n fwy i’r rhedwyr mwy cystadleuol yn ein plith. I’r rhedwyr mwy cymdeithasol, mae’r cyfleoedd i ryngweithio mewn awyrgylch ras neu ddigwyddiad rhedeg, a jyst cael hwyl, wedi bod yn llai gwaetha’r modd.
Ond, ddydd Sul 7 Mehefin roedd rhywbeth bach mwy diddorol ar droed – egin syniad bach gan glwb Rhedeg Llanelwedd a dyfodd i fod yn ddigwyddiad a ddenodd dros 60 o dimau a 1100 o redwyr i fod yn ran ohono! Roedd hyn yn cynnwys 39 o glybiau rhedeg swyddogol, un tîm pêl-droed ac un grŵp Facebook!
Yn wir, fe dyfodd i fod yn ddigwyddiad rhywngwladol gyda chlybiau o Loegr ac Iwerddon yn cystadlu yn ogystal â llu o dimau Cymreig.
Roedd y syniad yn syml – ras gyfnewid 15 awr gydag un rhedwr o bob clwb i redeg trwy gydol yr amser yna. Gallai pob rhedwr redeg awr yr un, neu gyfnodau byrrach / hirach ond fod rhaid llenwi’r union 15 awr rhwng 5am a 8pm ddydd Sul gydag un rhedwr – dim mwy, dim llai. Y tîm oedd yn llwyddo i redeg y pellter mwyaf dros y 15 awr fyddai’n dod i’r brig.
Dau dîm, un clwb
Penderfynodd dau dîm o Glwb Rhedeg Aberystwyth gystadlu – un yn cynnwys 16 o redwyr yn gwneud shifftiau’n amrywio rhwng 30 munud ac awr a hanner yr un; a’r llall yn cynnwys 10 o redwyr mwy cystadleuol oedd wedi penderfynu gwneud dau shifft 45 munud yr un yn ystod y dydd.
Mae 5:00 yn swnio’n gynnar ar fore Sul i’r mwyafrif o’r boblogaeth, ond byddech chi’n synnu faint o redwyr sydd allan am 5:00 neu 6:00 ar y rhan fwyaf o foreau. Paul Scullion oedd yn agor y dydd i un tîm, a Paul Williams i’r llall.
Yn ystod y dydd pasiodd y baton digidol o un rhedwr i’r llall gyda diweddariadau cyson yn ystod y dydd ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i redwyr o glybiau amrywiol rannu profiadau a hunluniau gan ddefnyddio’r hashnod #BaDRelay15.
Heb os roedd digon o hwyl i’w gael, ac roedd yr ysbryd tîm yn glir i’w weld wrth i bawb wisgo ei festiau clwb am y tro cyntaf ers misoedd.
Roedd shifft olaf y dydd i orffen am 8:00, a thasg y gŵr ifanc Isaac Ayres oedd cludo’r baton adref i un tîm, wrth i Theresa Sharland gloi’r dydd i’r llall.
Yn ystod y dydd, llwyddodd y tîm cyntaf o 16 o redwyr i glocio cyfanswm o 117.8 milltir dros 15 awr gan orffen yn yr 16eg safle – canlyniad ardderchog.
Roedd nifer o’r ail dim, a fabwysiadodd y strategaeth fentrus o redeg dau gymal yr un, yn poeni am eu hail shifft ar ôl rasio’r cyntaf braidd yn galed. Er hynny, llwyddodd pawb i ddarganfod y nerth oedd angen i gwblhau’r dasg gan orffen y dydd gyda chyfanswm o 140.95 milltir – cyfartaledd o dros Hanner Marathon yr un mewn 90 munud.
Roedd cyfanswm y tîm ‘A’ yn drawiadol, a phan gyhoeddwyd y canlyniadau fore Llun daeth i’r amlwg mai nhw oedd wedi dod i’r brig gyda thros 6 milltir yn fwy na’r tîm yn yr ail safle, sef tîm ‘A’ Rhedwyr Llwydlo (133.77 milltir).
Er nad oedd gwobrau i enillwyr y ras gyfnewid yma, roedd y boddhad a balchder i bawb fu’n cymryd rhan yn amlwg i’w weld ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn brawf fod y gymuned redeg yn parhau’n gryf a chefnogol er nad oes modd i ni redeg gyda’n gilydd ar hyn o bryd.
Cyfanswm Milltiroedd Tîm ‘B’ CA Aberystwyth
Paul Scullion – 8.50 milltir (60 munud)
Ian Brandreth 3.79 milltir (30 munud)
Will Lerigo 4.21 milltir (30 munud)
Nick Thompson 7.66 milltir (60 munud)
Enid Gruffudd 8.01 milltir (60 munud)
Richard Munn 3.39 milltir (30 munud)
Damian Sidnell 8.23 milltir (60 munud)
Anita Worthing 7.89 milltir (60 munud)
Jane Bailey 3.57 milltir (30 munud)
Maggie Collingborn 7.46 milltir (60 munud)
Ivan Courtier 8.46 milltir (60 munud)
Shan Lawson & Iestyn 11.95 milltir (90 munud)
Neil Gamble 7.29 milltir (60 munud)
Karen Isobel 7.11 milltir (60 munud)
Rich Anthony 13.71 milltir (90 munud)
Theresa Sharland 6.61 milltir (60 munud)
Cyfanswm: 117.8 Milltir
Cyfanswm Milltiroedd Rhedwyr Tîm ‘A’ CA Aberystwyth
* Dau shifft 45 munud yr un
Paul Williams: 13.99 Milltir
Paul Jones: 12.98 Milltir
Isaac Ayres: 14.47 Milltir
Edd Land: 15.23 Milltir
Shelley Childs: 13.01 Milltir
Ian Evans: 12.86 Milltir
Llyr Ab Einion: 14.24 Milltir
Gethin Holland: 13.81 Milltir
Mark Whitehead: 14.58 Milltir
Owain Schiavone: 15.78 Milltir
Cyfanswm: 140.05 Milltir
Canlyniadau swyddogol:
CARDIFF GAIT SPONSORED 15 HOUR CHALLENGE 2020 RESULTS #BaDRelay15 https://www.cardiffgait.co.uk/ 1….
Posted by Builth & District Running Club on Monday, 8 June 2020