“Mae llawer wedi troi at annibyniaeth fel ffordd o newid pethau”

Gofynnais i berson ifanc o Aberystwyth am ei farn ar annibyniaeth yn dilyn twf diweddar YesCymru

gan Ifan Wyn Erfyl Jones
Lloyd

Yn yr wythnosau diwethaf mae cynnydd enfawr wedi bod yn aelodaeth YesCymru. Yn ôl y grŵp maent bellach hefo 15,000 o aelodau, dim ond 2,500 oedd ganddynt ar ddechrau’r flwyddyn.

Mae YesCymru wedi cynnal gorymdaith mewn sawl lleoliad yn cynnwys Caernarfon a Merthyr Tydfil. Oni bai am yr pandemig byddai un arall wedi bod yn ystod mis Medi yn Abertawe.

Mae’n amlwg fod y pandemig wedi cael effaith ar gefnogaeth annibyniaeth i Gymru, ac mae aelodaeth o’r grŵp yn dal i gynyddu.

Siaradais hefo Lloyd o Aberystwyth sydd yn fwyaf adnabyddus am ei waith wrth gyflwyno ystadegau achosion covid ar ei wefan ac Twitter.

“Fydd yna o leiaf 5 o flynyddoedd cyn refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.”

“Credaf fod aelodaeth YesCymru wedi cynyddu yn ddiweddar oherwydd bod San Steffan yn newid y rheolau trwy’r amser, newid eu meddyliau am bethau ac yn rhoi gwledydd datganoledig ar waelod rhestr eu blaenoriaethau.”

“Rwyf yn cefnogi annibyniaeth oherwydd credaf all Cymru wneud yn well hefo fwy o reolaeth dros yr economi a sut ydym yn cael ein rheoli.”

“Mae pobl ifanc yn agor eu meddyliau i syniadau newydd, ac felly mae llawer wedi troi at annibyniaeth fel ffordd o newid pethau.”

Yn sicr mi fydd yn ddiddorol iawn gweld os bydd cynnydd eto yn aelodaeth YesCymru yn y misoedd nesaf a pha effaith a gaiff datblygiadau Brexit ar gefnogaeth i annibyniaeth wrth i’r cyfnod trosglwyddo gyda’r Undeb Ewropeaidd ddod i ben ddiwedd Rhagfyr.