Lansio prosiect cymunedol arloesol ‘Cofio’r Cwm’

Joanna Morgan
gan Joanna Morgan

Yn y llun mae cynrychiolwyr y grwpiau sydd yn rhan o’r brosiect newydd yma sydd wedi cael cymorth ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Gymunedol Ffermwynt Cefn Croes. Tynnwyd y llun gan Silvio Andrade ac yn y llun mae – o chwith i’r dde – Brython Davies, Cyng. Rhodri Davies, Meinir Davies a’i plant Malen ac Efa, Gladys Morgan, Derek Daniels ac Eluned Evans.

Lawnsiwyd prosiect newydd, arloesol, ‘Cofio’r Cwm’ mewn bore coffi fore Sadwrn, 15 Chwefror yn Ysgoldy Goch, Cwmystwyth. Mae’r prosiect yn dathlu treftadaeth Cwmystwyth – pentre’ bach cefn gwlad sydd â hanes cyfoethog ac amrywiol. Gwnaed y prosiect yn bosibl trwy gymorth ariannol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Fferm Wynt Cefn Croes.

Bwriad prosiect ‘Cofio’r Cwm’ yw cyhoeddu llyfr dwyieithog darluniadol, cynnal cyfres o ddigwyddiadau dathliadol, creu tudalen Facebook, digido delweddau hanesyddol a chreu ‘Taflen Teithiau Treftadaeth’.

Bydd y prosiect hefyd yn gweithio gyda ddisgyblion Ysgol Mynach ac aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Trisant er mwyn ysbrydoli a chreu diddordeb ymysg bobl ifanc lleol.

Tyfodd y syniad ‘Cofio’r Cwm’ o gydweithrediad brwdfrydig rhwng pedwar grŵp lleol. Amcan y prosiect yw dathlu hanes cyfoethog a bywiogrwydd parhaus y gymuned bentrefol fach hon, yn lleol ac ymhellach i ffwrdd.

Digon o ddathlu

Mae 2020 yn flwyddyn arbennig iawn i Gwmystwyth gan y bydd yr eglwys a’r capel leol, sef Eglwys Newydd a Capel Siloam, yn dathlu 400 mlynedd a 150 mlynedd ers eu sefydlu. Mae’r ddau adeilad wedi cael eu hadfer a’u hadnewyddu’n drylwyr yn ddiweddar i sicrhau dyfodol tymor-hir i’r ddau.

Cyflawnwyd y gwaith hwn yn llwyddianus gan gymuned fechan iawn sydd yn byw mewn ardal brin ei phoblogaeth ar ucheldir Mynydd y Cambria. Bydd prosiect ‘Cofio’r Cwm’ yn adeiladu ar momentwm y llwydiant hwn sydd wedi arwain, yn barod, at gynnydd mewn diddordeb yn ein treftadaeth lleol.

Y 4 grŵp gymunedol sydd yn rhan o’r prosiect hwn yw:

  • Eglwys Newydd Hafod Church
  • Capel Siloam
  • Cymdeithas Cwmystwyth a’r Cyffiniau
  • Cofnodion Cwmystwyth / Cwmystwyth Community Archive

Gweler isod am wybodaeth ychwanegol am y prosiect. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Eluned Evans           *elunedevans67@gmail.com   (01974 282214

Gareth Jones           *tycaebach@btinternet.com      (01974 282663

Gwybodaeth ychwanegol am brosiect ‘Cofio’r Cwm’:

  • Amcan ‘Cofio’r Cwm’ yw codi ymwybyddiaeth am, a diddordeb mewn, pob agwedd ar hanes a threftadaeth Cwmystwyth. O’n cwmpas ni mae ‘na gyfoeth o dystiolaeth am hanes diddorol ac amrywiol sydd wedi siapio ein datblygiad i fod yn gymuned gwydn a chadarn heddiw.
  • Credwn mewn pwysigrwydd treftadaeth ar adegau heriol, fel hyn, i gymunedau’r ucheldiroedd a chefn gwlad fel Cwmystwyth. Mae dysgu am ein hanes a diogelu ein treftadaeth yn ffordd bwysig o ddod â’r gymuned at ei gilydd i gyfoethogi a gwella’r dyfodol i bawb. Bydd prosiect ‘Cofio’r Cwm’ yn ein galluogi i rannu’r cyfoeth yma yn ehangach.

Manylion y prosiect:

  • Bydd hanesydd lleol, Edgar Morgan, yn ysgrifennu llyfr dwyieithog darluniadol dan y teitl Cofio’r Cwm. Bydd y llyfr hwn yn adlewyrchu hanes cyfoethog ac amrywiol Cwmystwyth ac yn ymdrin ag ystod eang o agweddau ar fywyd y gymuned yn y gorffennol.
  • Bydd y digwyddiadau dathliadol yn cynnwys cyngherddau, arddangosfeydd, cyfres o ddarlithoedd gyda sleidiau a chyfleoedd i rannu a chofnodi atgofion am yr ardal.
  • Hefyd, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2020 yn Tregaron, bydd lawnsiad o’r llyfr a chyfle i ymuno â thaith dywys ar goets o gwmpas ardal Cwmystwyth.
  • Bydd tudalen Facebook yn cael ei chreu a bydd cyfle i drigolion Cwmystwyth derbyn hyfforddiant gan staff Casgliad Y Werin ac Archif Sgrin a Sain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn digido delweddau hanesyddol er mwyn sicrhau bod hanes Cwmystwyth ar gael ledled y byd.
  • Bydd ‘Taflen Teithiau Treftadaeth’ yn amlygu llefydd o ddidordeb hanesyddol yng Nghwmystwyth er mwyn rhoi gwybodaeth am dreftadaeth yr ardal a denu ymwelwyr newydd.