Lawnsiwyd prosiect newydd, arloesol, ‘Cofio’r Cwm’ mewn bore coffi fore Sadwrn, 15 Chwefror yn Ysgoldy Goch, Cwmystwyth. Mae’r prosiect yn dathlu treftadaeth Cwmystwyth – pentre’ bach cefn gwlad sydd â hanes cyfoethog ac amrywiol. Gwnaed y prosiect yn bosibl trwy gymorth ariannol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Fferm Wynt Cefn Croes.
Bwriad prosiect ‘Cofio’r Cwm’ yw cyhoeddu llyfr dwyieithog darluniadol, cynnal cyfres o ddigwyddiadau dathliadol, creu tudalen Facebook, digido delweddau hanesyddol a chreu ‘Taflen Teithiau Treftadaeth’.
Bydd y prosiect hefyd yn gweithio gyda ddisgyblion Ysgol Mynach ac aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Trisant er mwyn ysbrydoli a chreu diddordeb ymysg bobl ifanc lleol.
Tyfodd y syniad ‘Cofio’r Cwm’ o gydweithrediad brwdfrydig rhwng pedwar grŵp lleol. Amcan y prosiect yw dathlu hanes cyfoethog a bywiogrwydd parhaus y gymuned bentrefol fach hon, yn lleol ac ymhellach i ffwrdd.
Digon o ddathlu
Mae 2020 yn flwyddyn arbennig iawn i Gwmystwyth gan y bydd yr eglwys a’r capel leol, sef Eglwys Newydd a Capel Siloam, yn dathlu 400 mlynedd a 150 mlynedd ers eu sefydlu. Mae’r ddau adeilad wedi cael eu hadfer a’u hadnewyddu’n drylwyr yn ddiweddar i sicrhau dyfodol tymor-hir i’r ddau.
Cyflawnwyd y gwaith hwn yn llwyddianus gan gymuned fechan iawn sydd yn byw mewn ardal brin ei phoblogaeth ar ucheldir Mynydd y Cambria. Bydd prosiect ‘Cofio’r Cwm’ yn adeiladu ar momentwm y llwydiant hwn sydd wedi arwain, yn barod, at gynnydd mewn diddordeb yn ein treftadaeth lleol.
Y 4 grŵp gymunedol sydd yn rhan o’r prosiect hwn yw:
- Eglwys Newydd Hafod Church
- Capel Siloam
- Cymdeithas Cwmystwyth a’r Cyffiniau
- Cofnodion Cwmystwyth / Cwmystwyth Community Archive
Gweler isod am wybodaeth ychwanegol am y prosiect. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Eluned Evans *elunedevans67@gmail.com (01974 282214
Gareth Jones *tycaebach@btinternet.com (01974 282663
Gwybodaeth ychwanegol am brosiect ‘Cofio’r Cwm’:
- Amcan ‘Cofio’r Cwm’ yw codi ymwybyddiaeth am, a diddordeb mewn, pob agwedd ar hanes a threftadaeth Cwmystwyth. O’n cwmpas ni mae ‘na gyfoeth o dystiolaeth am hanes diddorol ac amrywiol sydd wedi siapio ein datblygiad i fod yn gymuned gwydn a chadarn heddiw.
- Credwn mewn pwysigrwydd treftadaeth ar adegau heriol, fel hyn, i gymunedau’r ucheldiroedd a chefn gwlad fel Cwmystwyth. Mae dysgu am ein hanes a diogelu ein treftadaeth yn ffordd bwysig o ddod â’r gymuned at ei gilydd i gyfoethogi a gwella’r dyfodol i bawb. Bydd prosiect ‘Cofio’r Cwm’ yn ein galluogi i rannu’r cyfoeth yma yn ehangach.
Manylion y prosiect:
- Bydd hanesydd lleol, Edgar Morgan, yn ysgrifennu llyfr dwyieithog darluniadol dan y teitl Cofio’r Cwm. Bydd y llyfr hwn yn adlewyrchu hanes cyfoethog ac amrywiol Cwmystwyth ac yn ymdrin ag ystod eang o agweddau ar fywyd y gymuned yn y gorffennol.
- Bydd y digwyddiadau dathliadol yn cynnwys cyngherddau, arddangosfeydd, cyfres o ddarlithoedd gyda sleidiau a chyfleoedd i rannu a chofnodi atgofion am yr ardal.
- Hefyd, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2020 yn Tregaron, bydd lawnsiad o’r llyfr a chyfle i ymuno â thaith dywys ar goets o gwmpas ardal Cwmystwyth.
- Bydd tudalen Facebook yn cael ei chreu a bydd cyfle i drigolion Cwmystwyth derbyn hyfforddiant gan staff Casgliad Y Werin ac Archif Sgrin a Sain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn digido delweddau hanesyddol er mwyn sicrhau bod hanes Cwmystwyth ar gael ledled y byd.
- Bydd ‘Taflen Teithiau Treftadaeth’ yn amlygu llefydd o ddidordeb hanesyddol yng Nghwmystwyth er mwyn rhoi gwybodaeth am dreftadaeth yr ardal a denu ymwelwyr newydd.