Pen-blwydd Hapus Gigs Cantre’r Gwaelod
Heddiw, i ddathlu pen-blwydd y mudiad yn bedair oed mae Gigs Cantre’r Gwaelod wedi cyhoeddi cynllun newydd sbon o’r enw Gigs CARTREF Gwaelod.
Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweld digwyddiad ar ôl digwyddiad yn cael ei ganslo neu ei ohirio tan 2021. Tra ein bod wedi gobeithio y byddai modd cynnal ein trydedd Cyfres Diwedd Haf rhwng diwedd Awst a Medi yn anffodus mae’r rhagolygon yn edrych yn anffafriol i drefnwyr gigs am weddill y flwyddyn. Yn hynny o beth bydd rhaid aros tan flwyddyn nesaf ar gyfer ein gig nesaf ar y Prom.
Serch hyn, digon hawdd fyddai eistedd yn ôl ac aros tan fod modd trefnu gigs traddodiadol unwaith eto ond yma ym mhencadlys Gigs Cantre’r Gwaelod penderfynwyd nofio yn erbyn y llif a gwneud rhywbeth bach yn wahanol a rhywbeth sydd digon arloesol (o ran y Sîn Gymraeg ta beth!).
Gigs CARTREF Gwaelod
Am dri o’r gloch y.p. dydd Sul yma, hoffwn eich gwahodd i lansiad Gigs CARTREF Gwaelod sef ein cynllun i ddod â pherfformiadau ecsliwsif o gartrefi rhai o artistiaid gorau Cymru i’ch cartref chi. Yn ogystal â hyn mi fyddwn hefyd yn cael sgwrs gyda’r artistiaid.
Gan taw nhw oedd yn fod i agor ein Cyfres Diwedd Haf eleni diwedd Awst, Lowri Evans a Lee Mason fydd y cyntaf i berfformio ar lwyfan rhithiol Gigs CARTREF Gwaelod. Mae’r ddeuawd yma wedi bod yn perfformio ar draws Cymru, Prydain a hyd yn oed America ers dros ddegawd bellach a gyda’u cyfuniad o lais trawiadol Lowri a chwarae gitâr meistrolgar Lee (dim fod Lowri’n ffôl chwaith!) bydden nhw wedi gweddu’n berffaith i awyrgylch ymlaciedig y Bandstand.
Er fod y gig ei hun yn rhad ac am ddim mi fydd modd i chi wneud cyfraniad yn uniongyrchol i Lowri a Lee yn ystod y gig trwy PayPal. £12.50 yw ffi arferol ein gigs yn y Bandstand felly os ydych yn mwynhau, beth am gyfrannu’ch tocyn i’r artistiaid. Gyda chreu incwm yn anodd i gerddorion proffesiynol o’r fath ar hyn o bryd byddai unrhyw gyfraniad yn cael ei werthfawrogi’n fawr.
Bydd y gig yn cychwyn am 3 o’r gloch y.p. dydd Sul yma ar dudalen Facebook Gigs Cantre’r Gwaelod.