Lansio cwmni cludo nwyddau ‘gwahanol’ yn Aber

Cwmni newydd lleol sy’n ymateb i her y coronafeirws trwy gludo nwyddau mewn ffordd newydd ?

gan Nerys Llewelyn Davies

Mae gŵr busnes yn Aberystwyth wedi bod yn brysur iawn yn dyfeisio cwmni ‘dymachi’, sy’n darparu amrywiaeth o nwyddau a bwydydd i chi, drigolion Aberystwyth a’r fro.

Mae ef hefyd wedi creu system arloesol i gludo’r nwyddau mor fuan â phosibl.

Mae ef a’i gydweithwyr wedi harneisio ugain o wylanod y dref fel cynllun peilot, ac wedi rhoi sglodyn fel satnav yn eu hadain. Bydd y gwylanod yn hedfan y nwyddau gyda’r gwynt, yn glyd i’ch cartrefi, gyhyd â bod pob pecyn ddim yn drymach na 10kg.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi eich archeb, eich enw a’ch cyfeiriad, talu ar y ffôn, a naill ai osod llun neu gerflun o wylan o flaen eich drws ffrynt, neu wisgo lan fel gwylan a sefyll yno.

Peidiwch ag oedi!

2 sylw

Delyth Fletcher
Delyth Fletcher

Ydi’r enw wedi newid?

Lowri Jones
Lowri Jones

roedd e wedi ar fore 1 Ebrill yn unig!

Mae’r sylwadau wedi cau.