Lansio Albwm Bwca

Albwm Bwca mas ar CD Tachwedd yr 2il

Bwca (@bwcacymru)
gan Bwca (@bwcacymru)
Steff Rees a Ffion Evans, Bwca

Diweddglo blwyddyn ryfedd ac un ryfeddol o brysur

Er fod y Cyfnod Clo wedi rhoi taw ar gynlluniau nifer o fandiau mae Bwca rhywsut wedi cael 2020 brysur iawn gan rhyddhau senglau, chwarae gigiau, ymddangos ar Heno a Noson Lawen a llawer iawn mwy.

Bydd y prysurdeb yma yn parhau dros y gaeaf wrth i’r albwm cyntaf hirddisgwyliedig ddod allan ar CD ar ddydd Llun Tachwedd yr 2il yn barod i lenwi ambell hosan Nadolig. 

Beth i’w ddisgwyl ar y CD

Steff Rees, Aberystwyth sydd wedi ysgrifennu holl ganeuon yr albwm. I ddathlu degawd ers iddo symud i’r dref ger y lli mae’r albwm yn trafod y drwg a’r da o fywyd yn yr ardal gyda detholiad o ganeuon sydd yn amrywio o’r dwys i’r dychanol.

Mae’r albwm yn cynnig rhywbeth at ddant pob gwrandäwr. Gan gyfuno geiriau crafog llawn cyfieiriadau lleol gydag alawon hynod o fachog ac arddulliau cerddorol gwrtgyferbyniol mae’r albwm yn cynnwys wyth trac sydd yn llifo ac yn asio i greu portread difyr, gwreiddiol a hyliw o Aberystwyth a’r cyffiniau. 

Band o frodorion Bro Aber 

Yn ymuno gyda Steff ar yr albwm mae gweddill criw Bwca sydd yn cynnwys rhai o frodorion Bro Aber megis Ffion Evans, Llandre ar y trwmped a’r llais cefndir a Dilwyn Roberts-Young a’i organ geg.

Mae dau frodor arall hefyd wedi cyfrannu at y broses o droi’r gerddoriaeth mewn i CDs sef Lois Ilar yr artist sydd bellach yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Elgan Griffiths, y dylunydd graffeg o Rydyfelin a wnaeth y gwaith cysodi.

Ble i brynu copi?

Mae modd archebu copi wedi ei bostio i’ch cartref erbyn y diwrnod lansio sef dydd Llun Tachwedd yr 2il trwy gysylltu yn uniongyrchol â Bwca ar Facebook, Twitter neu Instagram (@bwcacymru).

Gallwch hefyd brynu copi o’r albwm o Siop y Pethe, Siop Inc a siopau Cymraeg ledled y wlad.