Diweddglo blwyddyn ryfedd ac un ryfeddol o brysur
Er fod y Cyfnod Clo wedi rhoi taw ar gynlluniau nifer o fandiau mae Bwca rhywsut wedi cael 2020 brysur iawn gan rhyddhau senglau, chwarae gigiau, ymddangos ar Heno a Noson Lawen a llawer iawn mwy.
Bydd y prysurdeb yma yn parhau dros y gaeaf wrth i’r albwm cyntaf hirddisgwyliedig ddod allan ar CD ar ddydd Llun Tachwedd yr 2il yn barod i lenwi ambell hosan Nadolig.
Beth i’w ddisgwyl ar y CD
Steff Rees, Aberystwyth sydd wedi ysgrifennu holl ganeuon yr albwm. I ddathlu degawd ers iddo symud i’r dref ger y lli mae’r albwm yn trafod y drwg a’r da o fywyd yn yr ardal gyda detholiad o ganeuon sydd yn amrywio o’r dwys i’r dychanol.
Mae’r albwm yn cynnig rhywbeth at ddant pob gwrandäwr. Gan gyfuno geiriau crafog llawn cyfieiriadau lleol gydag alawon hynod o fachog ac arddulliau cerddorol gwrtgyferbyniol mae’r albwm yn cynnwys wyth trac sydd yn llifo ac yn asio i greu portread difyr, gwreiddiol a hyliw o Aberystwyth a’r cyffiniau.
Band o frodorion Bro Aber
Yn ymuno gyda Steff ar yr albwm mae gweddill criw Bwca sydd yn cynnwys rhai o frodorion Bro Aber megis Ffion Evans, Llandre ar y trwmped a’r llais cefndir a Dilwyn Roberts-Young a’i organ geg.
Mae dau frodor arall hefyd wedi cyfrannu at y broses o droi’r gerddoriaeth mewn i CDs sef Lois Ilar yr artist sydd bellach yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Elgan Griffiths, y dylunydd graffeg o Rydyfelin a wnaeth y gwaith cysodi.
Ble i brynu copi?
Mae modd archebu copi wedi ei bostio i’ch cartref erbyn y diwrnod lansio sef dydd Llun Tachwedd yr 2il trwy gysylltu yn uniongyrchol â Bwca ar Facebook, Twitter neu Instagram (@bwcacymru).
Gallwch hefyd brynu copi o’r albwm o Siop y Pethe, Siop Inc a siopau Cymraeg ledled y wlad.