Iwcadwli yn cyrraedd y 50

Cip tu ôl i’r llenni yn ymarfer wythnosol Cerddorfa Iwcadwli.

Cered: Menter Iaith Ceredigion
gan Cered: Menter Iaith Ceredigion

Ar ddydd Sul, Chwefror 2il, bydd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol yr Ukulele.  Bydd Iwcadwli sef cerddorfa ukulele Gymraeg Aberystwyth yn dathlu mewn tipyn o steil.

Bellach, mae 50 o bobl yn mynychu Cerddorfa Iwcadwli – sydd yn cwrdd yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth ar nos Lun, ac Iwcadwli i Ddechreuwyr ar nos Fercher. O siaradwyr Cymraeg rhugl i ddysgwyr brwdfrydig, daw Iwcadwli a phob math o bobl at ei gilydd.  Mae rhai’n teithio hyd at awr o Ddolgellau a De Ceredigion i ddysgu’r ukulele mewn awyrgylch Gymraeg a hwyliog. Ym mis Ionawr 2020, cyrhaeddodd Iwcadwli a’u sylfaenydd sef Cered: Menter Iaith Ceredigion y tri olaf yng Ngwobrau Dathlu’r Mentrau Iaith am y prosiect datblygu cymunedol gorau.

Dyma gip tu ôl i’r llenni o’u hymarfer wythnos yma wrth iddyn nhw ddysgu sgiliau blws.

Am fwy o wybodaeth am Iwcadwli cysylltwch gyda’r arweinydd neu’r “Iwc Swyddog” Steff Rees ar cered@ceredigion.gov.uk