Ar ddechrau’r cyfnod clo nes i ddychmygu gorfod gweithio o adre am ychydig, a dwi’n siŵr bod sawl un ohonoch, fel fi, wedi bwrw ati i drawsnewid cornel bach o’ch tŷ mewn i swyddfa. Ond beth arall mae’ch tŷ wedi gorfod bod yn ddiweddar?
Un peth mae’r cyfnod clo wedi’i ddangos i mi yw pa mor hyblyg gall ein tai fod ar gyfer gwahanol weithgareddau a dyletswyddau. Mae ein tŷ ni yn gartref i bump o bobl, o wahanol oedrannau, a chyda diddordebau eang ac amrywiol.
Doeddwn i byth wedi dychmygu bod ein lolfa yn gallu troi mewn i ‘dojo’ ar gyfer gwers karate rhithiol gyda 25 o bobl eraill, neu le cyfarfod ar gyfer grŵp o Cubs. Dw’i erioed wedi dechrau cyfarfod mewn un ystafell, ac erbyn y diwedd wedi bod mewn tri stafell gwahanol yn chwilio am gornel bach tawel heb fod yn ffordd pawb arall oedd hefyd yn chwilio am le i wneud eu pethau nhw.
Ar y cyfan naeth y plant fwynhau’r profiad o fod ‘yn yr ysgol o bell’, er mewn gwirionedd mae’r ysgol gynradd rhyw ugain llathen i ffwrdd o’n tŷ ni!
Rydyn ni wedi cael gwersi drymiau a chlarinét, partïon pen-blwydd, nosweithiau cwis a bingo, sesiynau ymarfer corff, yoga, myfyrio a phaentio dros Zoom, Skype, Teams, WhatsApp, Messenger, Instagram, Facebook, Twitter….ayyb…ayyb. Rhaglenni sydd wedi bod yn rhan allweddol o weithio a chymdeithasu i nifer.
Naeth fy ngwraig cynnal sesiwn Cylch Meithrin rhithiol ar dudalen Facebook Mudiad Meithrin a chafodd ei weld gan blant dros Gymru gyfan.
Dwi wedi gwneud cyfweliadau teledu a radio, ac wedi cyfweld eraill ar gyfer gwefan meddwl.org.
Na, mae’n wir i ddweud bod y tŷ wedi bod yn llawer mwy na dim ond ‘swyddfa o adre’ yn y misoedd diwethaf.
Ond yn y diwedd cartref clyd i bump oedd ei bwrpas gwreiddiol, a dyna’i bwrpas pwysicaf yn y pen draw.